Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 21

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, Adran 21. Help about Changes to Legislation

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau AlbanaiddLL+C

21.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help