Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004LL+C
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).
(3) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi Cymunedol) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1