xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—
F1(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)o ran Erthyglau [F216] (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.
Diwygiadau Testunol
F1Rhlau. 6(1)(a) a hepgorwyd (31.12.2020) yn rhinwedd O.S. 2019/425, rhlau. 3(2B)(a) (fel y’i mewnosodwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau 1(2), 2(3)(a))
F2Gair yn rhlau. 6(1)(b) a amnewidiwyd (31.12.2020) gan O.S. 2019/425, rhlau. 3(2B)(b) (fel y’i mewnosodwyd gan Reoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau 1(2), 2(3)(a))
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1