Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/11/2012. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, Adran 9. Help about Changes to Legislation

Dehongli'r Rhan honLL+C

9.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

(i)a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

(ii)sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

(iii)y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o Gyfarwyddeb 84/500/EEC neu'r Atodiad hwnnw iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help