Rheoliad 12(1) a (2)
[F1ATODLEN 6LL+CRHESTR O’R SYLWEDDAU A AWDURDODWYD AR GYFER GWEITHGYNHYRCHU CAEN CELLWLOS ATGYNYRCHIEDIG
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 6 wedi ei fewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 (O.S. 2022/1362), rhl. 1, Atod. 1
Nodiadau:
Mae’r canrannau yn yr Atodlen hon wedi eu mynegi mewn pwysau/pwysau (p/p) ac wedi eu cyfrifo mewn perthynas â maint y caen cellwlos atgynyrchiedig anhydrus heb araen.
Rhoddir yr enwau technegol arferol mewn cromfachau sgwâr.
Rhaid i’r sylweddau a ddefnyddir fod o ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb.
Tabl 1
Caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen
Enwau | Cyfyngiadau |
---|---|
A. Cellwlos atgynyrchiedig | Heb fod yn llai na 72% (p/p) |
B. Ychwanegion | |
1. Meddalyddion | Heb fod yn fwy na chyfanswm o 27% (p/p) |
— Ether bis (2- hydrocsiethyl)[= deuethylenglycol] | Dim ond ar gyfer caenau y bwriedir eu haraenu ac yna eu defnyddio ar gyfer bwydydd nad ydynt yn llaith, sef bwydydd nad ydynt yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb. Ni chaiff cyfanswm yr ether bis(2- hydrocsiethyl) a’r ethanedïol sy’n bresennol mewn bwydydd sydd wedi bod mewn cysylltiad â chaen o’r math hwn fod yn fwy na 30mg/kg o’r bwyd. |
— Ethanedïol [= monoethylenglycol] | |
— 1,3-bwtanedïol | |
— Glyserol | |
— 1,2-propanedïol [= 1,2 propylenglycol] | |
— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol] | Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 250 a 1200. |
— 1,2-polypropylen ocsid [= 1,2 polypropylenglycol] | Pwysau gronynnol cyfartalog heb fod yn fwy na 400 a chynnwys 1.3-propanedïol rhydd heb fod yn fwy na 1% (p/p) mewn sylwedd. |
— Sorbitol | |
— Tetraethylenglycol | |
— Triethylenglycol | |
— Wrea | |
2. Ychwanegion Eraill | Heb fod yn fwy na chyfanswm o 1% (p/p). |
Y dosbarth cyntaf | Ni chaiff maint y sylwedd neu’r grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Asid asetig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na | |
— Asid asgorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na | |
— Asid bensoïg a sodiwm bensoad | |
— Asid fformig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na | |
— Asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd asidau behenig a risinolëig a halwynau NH4, Ca, Mg, K, Na, Al a Zn yr asidau hyn | |
— Asidau sitrig, d- ac l-lactig, malëig, l-tartarig a’u halwynau Na a K | |
— Asid sorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na | |
— Amidau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd amidau asidau behenig a risinolëig | |
— Startsys a blodiau bwytadwy naturiol | |
— Startsys a blodiau bwytadwy a addaswyd drwy driniaeth gemegol | |
— Amylos | |
— Carbonadau a chloridau calsiwm a magnesiwm | |
— Esterau glyserol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a/neu gydag asidau adipig, sitrig, 12-hydrocsistearig (ocsistearin), risinolëig | |
— Esterau polyocsiethylen (8 i 14 o grwpiau ocsiethylen) gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol | |
— Esterau sorbitol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol | |
— Mono-a/neu di-esterau asid stearig gydag ethanedïol a/neu ether bis (2-hydrocsiethyl) a/neu driethylen glycol | |
— Ocsidau a hydrocsidau alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a silicon a silicadau a silicadau hydradol alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a photasiwm | |
— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol] | Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 1200 a 4000. |
— Sodiwm propionad | |
Yr ail ddosbarth | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu ac ni chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 0.2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r caen heb ei araenu. |
— Sodiwm alcyl (C8-C18) bensen sylffonad | |
— Sodiwm isopropyl naffthalen sylffonad | |
— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffad | |
— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffonad | |
— Sodiwm deuoctylsylffosysinad | |
— Deustearad deuhydrocsiethyl deuethylen triamin monoasetad | Heb fod yn fwy na 0.05mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Amoniwm, magnesiwm a photasiwm lawryl sylffadau | |
— N,N′-deustearoyl deuaminoethan, N,N′-deupalmitoyl deuaminoethan ac N,N′-deuoleoyl deuaminoethan | |
— 2-heptadecyl-4,4-bis(methylen-stearad) ocsasolin | |
— Polyethylen-aminostearamid ethylsylffad | Heb fod yn fwy na 0.1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
Y trydydd dosbarth — Cyfrwng angori | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Cynnyrch cyddwysiad melamin-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:
| Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Cynnyrch cyddwysiad melamin-wrea-fformaldehyd a addaswyd gyda thris-(2-hydrocsiethyl)amin | Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Polyalcylenaminau cationig croesgysylltiedig:
| |
— Polyethylenaminau a pholyethyleniminau | Heb fod yn fwy na 0.75mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Cynnyrch cyddwysiad wrea-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:
| Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
Y pedwerydd dosbarth | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 0.01mg/dm2 o’r caen heb ei araenu. |
— Cynhyrchion sy’n deillio o adwaith aminau olewau bwytadwy gyda pholyethylen ocsid | |
— Monoethanolamin lawryl sylffad |
Tabl 2
Caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen
Enwau | Cyfyngiadau |
---|---|
A. Cellwlos atgynyrchiedig | Gweler Tabl 1. |
B. Ychwanegion | Gweler Tabl 1. |
C. Araen | |
1. Polymerau | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 50mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Etherau ethyl, hydrocsiethyl, hydrocsipropyl a methyl cellwlos | |
— Cellwlos nitrad | Heb fod yn fwy na 20mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd; cynnwys nitrogen rhwng 10.8% (p/p) a 12.2% (p/p) yn y cellwlos nitrad. |
2. Resinau | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 12.5mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd a dim ond ar gyfer paratoi caenau cellwlos atgynyrchiedig gydag araenau sy’n seiliedig ar gellwlos nitrad. |
— Casein | |
— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu a’u hesterau methyl, ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn | |
— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu wedi eu cyddwyso ag asidau acrylig, malëig, sitrig, ffwmarig a/neu ffthalig a/neu 2,2 bis (4-hydrocsiffenyl) propan fformaldehyd ac wedi eu hesteru â methyl ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn | |
— Esterau sy’n deillio o ether bis(2-hydrocsiethyl) gyda chynhyrchion ychwanegu betapinen, a/neu ddeupenten, a/neu ddeuterpen a malëig anhydrid | |
— Gelatin bwytadwy | |
— Olew castor a’i gynhyrchion dadhydradu neu hydrogenu a’i gynhyrchion cyddwyso gydag asidau polyglyserol, adipig, sitrig, malëig, ffthalig a sebasig | |
— Gwm naturiol [= damar] | |
— Poly-beta-pinen [= resinau terpenig] | |
— Resinau wrea-fformaldehyd (gweler cyfryngau angori) | |
3. Plastigyddion | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Asetyl tribwtyl sitrad | |
— Asetyl tri(2-ethylhecsyl) sitrad | |
— Deu-isobwtyl adipad | |
— Deu-n-bwtyl adipad | |
— Deu-n-hecsyl aselad | |
— Deugylchohecsyl ffthalad | Heb fod yn fwy na 4.0mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad (cyfystyr: ester asid ffosfforig deuffenyl 2 ethylhecsyl) | Ni chaiff maint y 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad fod yn fwy na: (a) 2.4mg/kg o’r bwyd sydd mewn cysylltiad â’r math hwn o gaen; neu (b) 0.4mg/dm2 yn yr araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Glyserol monoasetad [= monoasetin] | |
— Glyserol deuasetad [= deuasetin] | |
— Glyserol triasetad [= triasetin] | |
— Deu-bwtyl sebasad | |
— Deu-n-bwtyl tartrad | |
— Deu-isobwtyl tartrad | |
4. Ychwanegion eraill | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 yn y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
4.1 Yr ychwanegion a restrir yn Nhabl 1 | Yr un cyfyngiadau ag yn Nhabl 1 (fodd bynnag mae’r meintiau mewn mg/dm2 yn cyfeirio at y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd). |
4.2 Ychwanegion araen penodol | Ni chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— 1-hecsadecanol ac 1-octadecanol | |
— Esterau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol ac o asid risinolëig gydag alcoholau unionlin ethyl, bwtyl, amyl ac oleyl | |
— Cwyrau montan, ar ffurf asidau montanig puredig (C26 i C32) a/neu eu hesterau gydag ethanedïol a/neu 1,3 bwtanedïol a/neu eu halwynau calsiwm a photasiwm | |
— Cwyr carnawba | |
— Cwyr gwenyn | |
— Cwyr esparto | |
— Cwyr candelila | |
— Deumethylpolysilocsan | Heb fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Olew ffa soia epocsidiedig (cynnwys ocsiran 6 i 8%) | |
— Cwyrau microgrisialog a pharaffin puredig | |
— Pentaerythritol tetrastearad | |
— Mono a bis(octadecyldeuethylenocsid)-ffosffadau | Heb fod yn fwy na 0.2mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Asidau aliffatig (C8 i C20) wedi eu hestereiddio gyda mono- neu di-(2-hydrocsiethyl)amin | |
— 2- a 3-tert.bwtyl-4-hydrocsianisol [= hydrocsianisol bwtyleiddiedig — BHA] | Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— 2,6-di-tert.bwtyl-4-methylphenol [= hydrocsitolŵen bwtyleiddiedig — BHT] | Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Deu-n-octyltin-bis(2-ethylhecsyl) malead | Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
5. Toddyddion | Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 0.6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd. |
— Bwtyl asetad | |
— Ethyl asetad | |
— Isobwtyl asetad | |
— Isopropyl asetad | |
— Propyl asetad | |
— Aseton | |
— 1-bwtanol | |
— Ethanol | |
— 2-bwtanol | |
— 2-propanol | |
— 1-propanol | |
— Cylchohecsan | |
— Ethylenglycol monobwtyl ether | |
— Ethylenglycol monobwtyl ether asetad | |
— Methyl ethyl ceton | |
— Methyl isobwtyl ceton | |
— Tetrahydroffwran | |
— Tolŵen | Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.] |