Rheoliad 14(1)
YR ATODLENLL+CDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth benodedig | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18 | Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad |
Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6 | Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig |
Erthygl 8, y frawddeg gyntaf | Safonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig |
Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad I | Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig |
Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad II | Cyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig |
Erthygl 11(1) a (2) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 11(3) | Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd |
Erthygl 12 | Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd |
Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2) | Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig |
Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4) | Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen |
Erthygl 15 ac Atodiad IV | Gofynion y dylai datganiad cydymffurfio ysgrifenedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau plastig, ar gyfer cynhyrchion o gyfnodau canolraddol eu gweithgynhyrchiad ac ar gyfer sylweddau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer gweithgynhyrchu'r deunyddiau neu'r eitemau hynny fod ar gael yn ystod y cyfnodau marchnata ac eithrio'r cyfnod manwerthu |