I1F2Atodlen 1Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Rheoliad 14(1)

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y ddarpariaeth benodedig

Y pwnc

Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18

Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad

Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6

Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 8, y frawddeg gyntaf

Safonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad I

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad II

Cyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig

F3Erthygl 11(1) ac Atodiad I, fel y’u darllenir gydag Erthygl 11(3) a (4)

Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd

Erthygl 12

Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd

Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig

Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen

F4. . .

F4. . .

F1ATODLEN 2

Rheoliad 27

Annotations:

RHAN 1Addasu adran 10(1)

1

Yn lle adran 10(1) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) rhodder—

1

If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any provision specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

a

state the authorised officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

b

specify the matters which constitute the person’s failure to so comply;

c

specify the measures which, in the authorised officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

d

require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

1A

The provisions referred to in subsection (1) are—

a

regulations F810A(1), 10A(3) and 12(6) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012;

b

Article 16 of Regulation 1935/2004;

c

Article 5 of Regulation 1895/2005;

d

Articles 12 and 13 of Regulation 450/2009; F5...

e

the second sentence of Article 8, Article 15 as read with Annex IV, and Article 16 of Regulation 10/2011 F6; and

F7f

Article 4 of Regulation 2018/213.

RHAN 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf

Colofn 1

Darpariaeth y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiad

Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)

Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 30(6) ac (8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)

Yn is-adran (8), yn lle “this Act” rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 32 (pwerau mynediad)

Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, Regulation 1935/2004, Regulation 1895/2005, Regulation 2023/2006, Regulation 450/2009 and Regulation 10/2011”.

Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd), rhodder “section 10(1) of this Act as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above” mewnosoder “, as applied and modified by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

1A

A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012 shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.

Yn is-adran (2), yn y geiriau agoriadol, yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 27 of, and Part 2 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012,”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)

Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2) as applied by regulation 27 of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012”.

Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

“Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, may appeal to a magistrates’ court.”

Yn is-adran (6)—

yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; ac

ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

1

On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 27 of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2012, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the magistrates’ court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution.”.

F9Atodlen 3RHEOLAU SYLFAENOL AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

Rheoliad 10

Annotations:

1

Yr hylif prawf

Asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd a baratowyd yn ffres.

2

Amodau’r prawf

a

Cynhalier y prawf ar dymheredd o 22 ± 2 °C am gyfnod o 24 ± 0,5 awr.

b

Pan yw ymfudiad plwm i’w benderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i’w diogelu a gadawer hi yn agored i’r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy. Pan yw ymfudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm i’w penderfynu, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i’w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.

3

Llenwi

a

Samplau y gellir eu llenwi—

  • Llenwer yr eitem â hydoddiant asid asetig 4 % (v/v) hyd at lefel nad yw’n uwch nag 1 mm o’r pwynt gorlifo; mesurir y pellter o ymyl uchaf y sampl. Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy’n goleddfu ychydig fel nad yw’r pellter rhwng arwyneb yr hylif a’r pwynt gorlifo yn fwy na 6 mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy’n goleddfu.

b

Samplau na ellir eu llenwi—

  • Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd â haenen amddiffynnol addas sy’n gallu gwrthsefyll gweithrediad yr hydoddiant asid asetig 4 % (v/v). Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy’n cynnwys cyfaint gwybyddus o hydoddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwydydd yn cael ei orchuddio’n llwyr gan yr hylif prawf.

4

Penderfynu’r arwynebedd

Mae arwynebedd yr eitemau yng Nghategori 1 yn hafal i arwynebedd y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â’r gofynion llenwi a nodir ym mharagraff 3.

Atodlen 4DULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU YMFUDIAD PLWM A CHADMIWM

Rheoliad 10

1

Amcan a maes cymhwyso

Mae’r dull yn caniatáu i’r ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

2

Yr egwyddor

  • Penderfynir yr ymfudiad penodol o blwm a/neu gadmiwm gan ddefnyddio dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n bodloni’r meini prawf perfformiad ym mharagraff 4.

3

Adweithyddion

  • Rhaid i bob adweithydd fod o ansawdd dadansoddol, oni phennir fel arall.

Pan fo cyfeiriad at ddŵr, mae’n golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

a

asid asetig 4 % (v/v), mewn hydoddiant dyfrllyd

Ychwaneger 40 ml o asid asetig grisialog at ddŵr fel bod y lefel yn cyrraedd 1 000 ml.

b

Hydoddiannau stoc

Paratoer hydoddiannau stoc sy’n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

4

Meini prawf perfformiad y dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn

a

Rhaid i’r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,1 mg/litr ar gyfer plwm,

0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o’r elfen yn yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), sy’n rhoi signal sy’n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

b

Rhaid i’r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu’n is na—

0,2 mg/litr ar gyfer plwm,

0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.

c

Adennill. Rhaid i’r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegir at yr hydoddiant asid asetig 4 %, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(a), ddod o fewn 80-120 % o’r swm a ychwanegir.

d

Penodoldeb. Rhaid i’r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy’n cael ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau sbectrol.

5

Dull

a

Paratoi’r sampl

Rhaid i’r sampl fod yn lân ac yn rhydd o saim neu sylwedd arall sy’n debygol o effeithio ar y prawf.

Golcher y sampl mewn hydoddiant sy’n cynnwys glanedydd hylif i’r cartref ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac wedyn mewn dŵr wedi ei ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a’i sychu i osgoi unrhyw staen. Nid yw’r arwyneb sydd i’w brofi i’w drafod ar ôl iddo gael ei lanhau.

b

Penderfynu plwm a/neu gadmiwm

Cynhelir prawf ar y sampl a baratowyd yn y modd hwn o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3.

Cyn cymryd yr hydoddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy’n osgoi colli unrhyw hydoddiant neu’n osgoi sgrafellu’r arwyneb syn cael ei brofi.

  • Cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau.

  • Cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.

Atodlen 5DATGANIAD O GYDYMFFURFEDD

Rheoliad 10A

1

Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 10A gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

a

enw a chyfeiriad y cwmni sy’n gweithgynhyrchu’r eitem geramig orffenedig ac enw a chyfeiriad y mewnforiwr sy’n ei mewnforio i’r Deyrnas Unedig;

b

manylion adnabod yr eitem geramig;

c

dyddiad y datganiad;

d

y cadarnhad bod yr eitem geramig yn bodloni’r gofynion perthnasol yn y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1935/2004.

2

Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig ganiatáu adnabod yn hawdd y nwyddau y’i dyroddwyd ar eu cyfer a rhaid iddo gael ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau yn ymfudiad plwm neu gadmiwm neu’r ddau.

F10ATODLEN 6RHESTR O’R SYLWEDDAU A AWDURDODWYD AR GYFER GWEITHGYNHYRCHU CAEN CELLWLOS ATGYNYRCHIEDIG

Rheoliad 12(1) a (2)

Annotations:

Nodiadau:

  • Mae’r canrannau yn yr Atodlen hon wedi eu mynegi mewn pwysau/pwysau (p/p) ac wedi eu cyfrifo mewn perthynas â maint y caen cellwlos atgynyrchiedig anhydrus heb araen.

  • Rhoddir yr enwau technegol arferol mewn cromfachau sgwâr.

  • Rhaid i’r sylweddau a ddefnyddir fod o ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb.

Tabl 1Caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen

Enwau

Cyfyngiadau

A. Cellwlos atgynyrchiedig

Heb fod yn llai na 72% (p/p)

B. Ychwanegion

1. Meddalyddion

Heb fod yn fwy na chyfanswm o 27% (p/p)

— Ether bis (2- hydrocsiethyl)[= deuethylenglycol]

Dim ond ar gyfer caenau y bwriedir eu haraenu ac yna eu defnyddio ar gyfer bwydydd nad ydynt yn llaith, sef bwydydd nad ydynt yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb. Ni chaiff cyfanswm yr ether bis(2- hydrocsiethyl) a’r ethanedïol sy’n bresennol mewn bwydydd sydd wedi bod mewn cysylltiad â chaen o’r math hwn fod yn fwy na 30mg/kg o’r bwyd.

— Ethanedïol [= monoethylenglycol]

— 1,3-bwtanedïol

— Glyserol

— 1,2-propanedïol [= 1,2 propylenglycol]

— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol]

Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 250 a 1200.

— 1,2-polypropylen ocsid [= 1,2 polypropylenglycol]

Pwysau gronynnol cyfartalog heb fod yn fwy na 400 a chynnwys 1.3-propanedïol rhydd heb fod yn fwy na 1% (p/p) mewn sylwedd.

— Sorbitol

— Tetraethylenglycol

— Triethylenglycol

— Wrea

2. Ychwanegion Eraill

Heb fod yn fwy na chyfanswm o 1% (p/p).

Y dosbarth cyntaf

Ni chaiff maint y sylwedd neu’r grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Asid asetig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na

— Asid asgorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na

— Asid bensoïg a sodiwm bensoad

— Asid fformig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na

— Asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd asidau behenig a risinolëig a halwynau NH4, Ca, Mg, K, Na, Al a Zn yr asidau hyn

— Asidau sitrig, d- ac l-lactig, malëig, l-tartarig a’u halwynau Na a K

— Asid sorbig a’i halwynau NH4, Ca, Mg, K ac Na

— Amidau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a hefyd amidau asidau behenig a risinolëig

— Startsys a blodiau bwytadwy naturiol

— Startsys a blodiau bwytadwy a addaswyd drwy driniaeth gemegol

— Amylos

— Carbonadau a chloridau calsiwm a magnesiwm

— Esterau glyserol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol a/neu gydag asidau adipig, sitrig, 12-hydrocsistearig (ocsistearin), risinolëig

— Esterau polyocsiethylen (8 i 14 o grwpiau ocsiethylen) gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol

— Esterau sorbitol gydag asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol

— Mono-a/neu di-esterau asid stearig gydag ethanedïol a/neu ether bis (2-hydrocsiethyl) a/neu driethylen glycol

— Ocsidau a hydrocsidau alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a silicon a silicadau a silicadau hydradol alwminiwm, calsiwm, magnesiwm a photasiwm

— Polyethylen ocsid [= polyethylenglycol]

Pwysau gronynnol cyfartalog rhwng 1200 a 4000.

— Sodiwm propionad

Yr ail ddosbarth

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu ac ni chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 0.2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r caen heb ei araenu.

— Sodiwm alcyl (C8-C18) bensen sylffonad

— Sodiwm isopropyl naffthalen sylffonad

— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffad

— Sodiwm alcyl (C8-C18) sylffonad

— Sodiwm deuoctylsylffosysinad

— Deustearad deuhydrocsiethyl deuethylen triamin monoasetad

Heb fod yn fwy na 0.05mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Amoniwm, magnesiwm a photasiwm lawryl sylffadau

— N,N′-deustearoyl deuaminoethan, N,N′-deupalmitoyl deuaminoethan ac N,N′-deuoleoyl deuaminoethan

— 2-heptadecyl-4,4-bis(methylen-stearad) ocsasolin

— Polyethylen-aminostearamid ethylsylffad

Heb fod yn fwy na 0.1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Y trydydd dosbarth — Cyfrwng angori

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad melamin-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:

  • bwtanol

  • deuethylentriamin

  • ethanol

  • triethylentetramin

  • tetraethylenpentamin

  • tri-(2-hydrocsiethyl) amin

  • 3,3′-deuaminodipropylamin

  • 4,4′-deuaminodibwtylamin

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad melamin-wrea-fformaldehyd a addaswyd gyda thris-(2-hydrocsiethyl)amin

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Cynnwys melamin rhydd heb fod yn fwy na 0.3mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Polyalcylenaminau cationig croesgysylltiedig:

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar deuaminopropylmethylamin ac epiclorhydrin

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, asid adipig, caprolactam, deuethylentriamin a/neu ethylendiamin

  • resin polyamid-epiclorhydrin yn seiliedig ar asid adipig, deuethylentriamin ac epiclorhydrin, neu gymysgedd o epiclorhydrin ac amonia

  • resin polyamid-polyamin-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, deumethyl adipad a deuethylentriamin

  • resin polyamid-polyamin-epiclorhydrin yn seiliedig ar epiclorhydrin, adipamid a deuaminopropylmethylamin

— Polyethylenaminau a pholyethyleniminau

Heb fod yn fwy na 0.75mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynnyrch cyddwysiad wrea-fformaldehyd heb ei addasu, neu y gellir ei addasu gydag un neu ragor o’r cynhyrchion a ganlyn:

  • asid aminomethylswlffonig

  • asid sylffanilig

  • bwtanol

  • deuaminobwtan

  • deuaminodiethylamin

  • deuaminodipropylamin

  • deuaminopropan

  • deuethylentriamin

  • ethanol

  • gwanidin

  • methanol

  • tetraethylenpentamin

  • triethylentetramin

  • sodiwm sylffit

Cynnwys fformaldehyd rhydd heb fod yn fwy na 0.5mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

Y pedwerydd dosbarth

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy nag 0.01mg/dm2 o’r caen heb ei araenu.

— Cynhyrchion sy’n deillio o adwaith aminau olewau bwytadwy gyda pholyethylen ocsid

— Monoethanolamin lawryl sylffad

Tabl 2Caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen

Enwau

Cyfyngiadau

A. Cellwlos atgynyrchiedig

Gweler Tabl 1.

B. Ychwanegion

Gweler Tabl 1.

C. Araen

1. Polymerau

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 50mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Etherau ethyl, hydrocsiethyl, hydrocsipropyl a methyl cellwlos

— Cellwlos nitrad

Heb fod yn fwy na 20mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd; cynnwys nitrogen rhwng 10.8% (p/p) a 12.2% (p/p) yn y cellwlos nitrad.

2. Resinau

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 12.5mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd a dim ond ar gyfer paratoi caenau cellwlos atgynyrchiedig gydag araenau sy’n seiliedig ar gellwlos nitrad.

— Casein

— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu a’u hesterau methyl, ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn

— Coloffoni a/neu ei gynhyrchion polymeru, hydrogenu, neu ddadgyfrannu wedi eu cyddwyso ag asidau acrylig, malëig, sitrig, ffwmarig a/neu ffthalig a/neu 2,2 bis (4-hydrocsiffenyl) propan fformaldehyd ac wedi eu hesteru â methyl ethyl neu alcoholau polyfalent C2 i C6, neu gymysgeddau o’r alcoholau hyn

— Esterau sy’n deillio o ether bis(2-hydrocsiethyl) gyda chynhyrchion ychwanegu betapinen, a/neu ddeupenten, a/neu ddeuterpen a malëig anhydrid

— Gelatin bwytadwy

— Olew castor a’i gynhyrchion dadhydradu neu hydrogenu a’i gynhyrchion cyddwyso gydag asidau polyglyserol, adipig, sitrig, malëig, ffthalig a sebasig

— Gwm naturiol [= damar]

— Poly-beta-pinen [= resinau terpenig]

— Resinau wrea-fformaldehyd (gweler cyfryngau angori)

3. Plastigyddion

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Asetyl tribwtyl sitrad

— Asetyl tri(2-ethylhecsyl) sitrad

— Deu-isobwtyl adipad

— Deu-n-bwtyl adipad

— Deu-n-hecsyl aselad

— Deugylchohecsyl ffthalad

Heb fod yn fwy na 4.0mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad (cyfystyr: ester asid ffosfforig deuffenyl 2 ethylhecsyl)

Ni chaiff maint y 2-ethylhecsyl deuffenyl ffosffad fod yn fwy na:

(a) 2.4mg/kg o’r bwyd sydd mewn cysylltiad â’r math hwn o gaen; neu

(b) 0.4mg/dm2 yn yr araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Glyserol monoasetad [= monoasetin]

— Glyserol deuasetad [= deuasetin]

— Glyserol triasetad [= triasetin]

— Deu-bwtyl sebasad

— Deu-n-bwtyl tartrad

— Deu-isobwtyl tartrad

4. Ychwanegion eraill

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 6mg/dm2 yn y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

4.1 Yr ychwanegion a restrir yn Nhabl 1

Yr un cyfyngiadau ag yn Nhabl 1 (fodd bynnag mae’r meintiau mewn mg/dm2 yn cyfeirio at y caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen, yn gynhwysol o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd).

4.2 Ychwanegion araen penodol

Ni chaiff maint y sylwedd neu grŵp o sylweddau ym mhob indent fod yn fwy na 2mg/dm2 (neu derfyn is pan bennir un) o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— 1-hecsadecanol ac 1-octadecanol

— Esterau asidau brasterog unionlin, dirlawn neu annirlawn, gydag eilrif o atomau carbon o 8 i 20 yn gynhwysol ac o asid risinolëig gydag alcoholau unionlin ethyl, bwtyl, amyl ac oleyl

— Cwyrau montan, ar ffurf asidau montanig puredig (C26 i C32) a/neu eu hesterau gydag ethanedïol a/neu 1,3 bwtanedïol a/neu eu halwynau calsiwm a photasiwm

— Cwyr carnawba

— Cwyr gwenyn

— Cwyr esparto

— Cwyr candelila

— Deumethylpolysilocsan

Heb fod yn fwy nag 1mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Olew ffa soia epocsidiedig (cynnwys ocsiran 6 i 8%)

— Cwyrau microgrisialog a pharaffin puredig

— Pentaerythritol tetrastearad

— Mono a bis(octadecyldeuethylenocsid)-ffosffadau

Heb fod yn fwy na 0.2mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Asidau aliffatig (C8 i C20) wedi eu hestereiddio gyda mono- neu di-(2-hydrocsiethyl)amin

— 2- a 3-tert.bwtyl-4-hydrocsianisol [= hydrocsianisol bwtyleiddiedig — BHA]

Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— 2,6-di-tert.bwtyl-4-methylphenol [= hydrocsitolŵen bwtyleiddiedig — BHT]

Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Deu-n-octyltin-bis(2-ethylhecsyl) malead

Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

5. Toddyddion

Ni chaiff cyfanswm maint y sylweddau fod yn fwy na 0.6mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.

— Bwtyl asetad

— Ethyl asetad

— Isobwtyl asetad

— Isopropyl asetad

— Propyl asetad

— Aseton

— 1-bwtanol

— Ethanol

— 2-bwtanol

— 2-propanol

— 1-propanol

— Cylchohecsan

— Ethylenglycol monobwtyl ether

— Ethylenglycol monobwtyl ether asetad

— Methyl ethyl ceton

— Methyl isobwtyl ceton

— Tetrahydroffwran

— Tolŵen

Heb fod yn fwy na 0.06mg/dm2 o’r araen ar yr ochr sydd mewn cysylltiad â bwyd.