YR ATODLENDarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011

Rheoliad 14(1)

Y ddarpariaeth benodedig

Y pwnc

Erthygl 4(e), fel y'i darllenir gydag Erthyglau 17 a 18

Gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau neu eitemau plastig os nad ydynt yn bodloni gofynion penodedig ynghylch cyfansoddiad a datganiad

Erthygl 5(1) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 6

Gofyniad, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol, i ddefnyddio sylweddau awdurdodedig yn unig i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 8, y frawddeg gyntaf

Safonau cyffredinol o ran ansawdd a phurdeb y mae'n rhaid glynu wrthynt yn achos sylweddau sy'n cael eu defnyddio i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 9 fel y'i darllenir gydag Atodiad I

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu haenau plastig mewn deunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 10 fel y'i darllenir gydag Atodiad II

Cyfyngiadau cyffredinol ar ddeunyddiau ac eitemau plastig

Erthygl 11(1) a (2) ac Atodiad I, fel y'i darllenir gydag Erthygl 11(3)

Terfynau penodol ar y graddau y caniateir i gyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig ymfudo i fwydydd

Erthygl 12

Terfynau cyffredinol ar y lefel a ganiateir ar gyfer ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i efelychwyr bwyd

Erthygl 13(1), (3), (4) a (5) ac Atodiad I fel y'i darllenir gydag Erthygl 13(2)

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlhaen plastig

Erthygl 14(1) a (5) ac Atodiad 1, fel y'i darllenir gydag Erthygl 4(2), (3) a (4)

Cyfyngiadau a manylebau penodol ar gyfer cyfansoddiad pob haen blastig mewn deunyddiau ac eitemau amlddeunydd amlhaen

Erthygl 15 ac Atodiad IV

Gofynion y dylai datganiad cydymffurfio ysgrifenedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau plastig, ar gyfer cynhyrchion o gyfnodau canolraddol eu gweithgynhyrchiad ac ar gyfer sylweddau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer gweithgynhyrchu'r deunyddiau neu'r eitemau hynny fod ar gael yn ystod y cyfnodau marchnata ac eithrio'r cyfnod manwerthu