Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 2012. Daw i rym ar 17 Rhagfyr 2012.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cymeradwyo trapiau sbring2

1

At ddibenion adran 8(3) o Ddeddf Plâu 1954, mae'r trapiau sbring canlynol wedi eu cymeradwyo, sef—

a

unrhyw drap sbring—

i

o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen; a

ii

sy'n cael ei weithgynhyrchu neu a gafodd ei weithgynhyrchu gan neu o dan awdurdod y person neu y cwmni a bennir yn y cofnod hwnnw; a

b

unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen.

2

Mae'r cymeradwyaethau a roddir gan baragraff (1) o'r erthygl hon sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring a bennir yn unrhyw gofnod yng ngholofn (1) o'r Atodlen, ac sy'n ymwneud ag unrhyw drap sbring sy'n gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring a bennir felly, yn ddarostyngedig i'r amodau o ran yr anifeiliaid y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen mewn perthynas â hwy, a'r amgylchiadau y caniateir defnyddio'r trap sbring a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Atodlen oddi tanynt.

3

At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae trap sbring yn gyfwerth ym mhob modd perthnasol â thrap sbring o fath a gwneuthuriad a bennir yn yr Atodlen os yw'n cyfateb i'r trap sbring a bennir felly o ran adeiladwaith, deunyddiau, grym effaith neu fomentwm, ac ym mhob modd arall sy'n berthnasol i'w effaith neu i'w fodd o weithredu fel trap.

Dirymiadau3

Mae Gorchymyn Cymeradwyo Trapiau Sbring (Cymru) 20103 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

John GriffithsGweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru