Diwygio Rheoliadau2

1

Diwygir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 20004 yn unol â pharagraffau (2) i (9).

2

Yn rheoliad 2 (dehongli)—

a

ym mharagraff (1)—

i

ar ôl y diffiniad o “Deddf 1984” rhowch—

  • ystyr “dyddiad rhoi” (“date of issue”) yw'r dyddiad y bydd bathodyn person anabl yn ddilys i'w ddefnyddio am y tro cyntaf;

b

yn lle paragraff (3) rhowch—

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “collfarn berthnasol” (“relevant conviction”) yw unrhyw gollfarn am dramgwydd a bennir ym mharagraff (4) a gyflawnwyd mewn perthynas â bathodyn person anabl—

a

yn erbyn deiliad y bathodyn hwnnw; neu

b

yn erbyn unrhyw berson arall sy'n defnyddio'r bathodyn hwnnw gyda gwybodaeth y deiliad ar unrhyw adeg tra oedd y tramgwydd yn cael ei gyflawni.

c

yn lle paragraff (4) rhowch—

4

Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (3) yw unrhyw dramgwydd—

a

o dan adran 21(4B) o Ddeddf 1970;

b

o dan adran 115 neu 117 o Ddeddf 1984; neu

c

sy'n ymwneud ag unrhyw anonestrwydd neu dwyll o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn Neddf 1970, yn Neddf 1984 neu mewn unrhyw deddfwriaeth arall sy'n gymwys yn y Deyrnas Unedig, neu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

3

Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl) ym mharagraff (1)(a) yn lle “3 blwydd” rhowch “2 flwydd”.

4

Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi)—

a

yn lle paragraff (1) rhowch—

1

Yn achos bathodyn unigolyn ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi am roi'r bathodyn—

a

os na fu gan yr ymgeisydd fathodyn person anabl o'r blaen; neu

b

os yw'r ymgeisydd yn gwneud cais am adnewyddu bathodyn person anabl sydd eisoes yn bod, os yw'r bathodyn hwnnw wedi dod i ben neu ar fin dod i ben.

b

ar ôl paragraff (1) rhowch—

2

Yn achos bathodyn sefydliad ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi o fwy na £10 am roi bathodyn—

a

os na fu gan yr ymgeisydd fathodyn person anabl o'r blaen; neu

b

os yw'r ymgeisydd yn gwneud cais am adnewyddu bathodyn person anabl sydd eisoes yn bod, os yw'r bathodyn hwnnw wedi dod i ben neu ar fin dod i ben.

c

Ar ôl paragraff (2) rhowch—

3

Yn achos bathodyn unigolyn yn lle un arall neu fathodyn sefydliad yn lle un arall gollwyd sy'n cael ei roi yn unol â rheoliad 7 ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi o fwy na £10 am roi'r bathodyn hwnnw yn lle un arall.

ch

ailrifwch y paragraff (2) bresennol fel paragraff (4).

5

Yn rheoliad 7—

a

yn lle'r pennawd rhowch “Bathodynnau yn lle rhai eraill”;

b

ym mharagraff (1)—

i

ar ôl y gair “modur” rhowch “neu sydd fel arall yn ei atal rhag cael ei adnabod yn gywir neu sy'n atal gwahaniaethu rhyngddo a ffugiad”; a

ii

yn lle “gyda'r gair “dyblygiad” wedi ei farcio ar ei flaen” rhowch “mewn ffurf sydd drwy rifau olynol yn dynodi pob bathodyn olynol a roddir i'r person anabl neu'r sefydliad (yn ôl fel y digwydd) gan yr awdurdod rhoi.”.

6

Yn rheoliad 8 (seiliau dros wrthod rhoi bathodyn)—

a

ym mharagraff (2)(a)—

i

dileer “neu o dan Reoliadau 1982”; a

ii

yn lle “o leiaf dair collfarn berthnasol” rhowch “gollfarn berthnasol”;

b

ar diwedd paragraff (2)(b)(i) rhowch “neu ei fod yn byw yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw”;

c

ar ddiwedd paragraff (2)(c) dileer “neu”; ac

ch

ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) rhowch—

d

bod gan yr ymgeisydd fathodyn dilys eisoes sydd wedi'i roi gan awdurdod rhoi arall.

7

Yn rheoliad 9 (dychwelyd bathodyn i'r awdurdod rhoi)—

a

ar ddiwedd paragraff (1)(d) rhowch “neu ei fod wedi dioddef unrhyw ddifrod arall sydd fel arall yn ei atal rhag cael ei adnabod yn gywir neu sy'n atal gwahaniaethu rhyngddo a ffugiad”;

b

ar ddiwedd paragraff (1)(dd) rhowch “neu fod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i'r deiliad gan awdurdod rhoi arall.”;

c

ym mharagraff (2)(a) dileer “ar o leiaf dri achlysur”; ac

ch

ar ddiwedd paragraff (2)(b) rhowch “neu fod y deiliad wedi honni ei fod wedi trosglwyddo'r bathodyn i berson arall”.

8

Yn lle rheoliad 11 (ffurf bathodyn) rhowch—

Ffurf bathodyn11

1

ae paragraff (2) yn gymwys o ran bathodyn ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012 ac mae paragraff (3) yn gymwys o ran bathodyn ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

2

Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig—

a

os yw blaen a chefn y bathodyn yn y ffurf a ddangosir—

i

yn Rhan I o'r Atodlen yn achos bathodyn unigolyn; neu

ii

yn Rhan II o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad; a

b

os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylion yn Rhan III o'r Atodlen.

3

Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig—

a

os yw blaen a chefn y bathodyn yn y ffurf a ddangosir—

i

yn Rhan IA o'r Atodlen yn achos bathodyn unigolyn (gan hepgor y gair “sample” lle y mae'n ymddangos); neu

ii

yn Rhan IIA o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad (gan hepgor y gair “sample” lle y mae'n ymddangos); a

b

os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylion yn Rhan IIIA o'r Atodlen.

9

Yn yr Atodlen—

a

ym mhennawd Rhan I, dileer y gair “Ffurf”;

b

ar ôl y pennawd “Bathodyn Unigolyn”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”;

c

ar ôl Rhan I, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

ch

ym mhennawd Rhan II dileer y gair “Ffurf”;

d

ar ôl y pennawd “Bathodyn Sefydliad”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”;

dd

ar ôl Rhan II, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

e

yn Rhan III (Manylion ar gyfer Bathodyn), ar ôl y pennawd “Manylion ar gyfer Bathodyn”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”; ac

f

ar ôl Rhan III, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.