Offerynnau Statudol Cymru
YR IAITH GYMRAEG
Gwnaed
13 Rhagfyr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Rhagfyr 2012
Yn dod i rym
4 Ionawr 2013
Gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person y cyfeirir ato yn y Gorchymyn hwn yn berson sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012 a daw i rym ar 4 Ionawr 2013.
2. Pennir Corff Adnoddau Naturiol Cymru(3) at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) caiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg bellach wedi'i ddiddymu a throsglwyddwyd y swyddogaeth o roi hysbysiad o dan Ran II o'r Ddeddf i Gomisiynydd y Gymraeg yn rhinwedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweinidogion Cymru bellach) bennu cyrff cyhoeddus at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Corff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Mae chwe Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550(Cy.215));
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441(Cy.145));
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 (O.S. 2004/71(Cy.7)); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 (O.S. 2008/1890(Cy.179)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoliadol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio a'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny wedi'u trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903(Cy.230)).