- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
122.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 119.
(2) Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 119, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—
(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 123; neu
(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.
(6) Pan fo'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy'n gwrs rhan-amser, mae'r cyfnod cymhwystra'n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â'n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 121(1)(b)(ii).
(7) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;
(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 128.
(8) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: