29.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr cymwys.
(3) Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;
(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.
(4) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu i dalu am wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(5) Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(d) yw £15,885 a £1,338, yn y drefn honno—
(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; a
(b)os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser ac ymarfer dysgu llawnamser gyda'i gilydd yn llai na 6 wythnos.
(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
(7) Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig.