Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

Dirymu, dal yn ôl neu adennill grant

19.—(1Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 7(1) neu o dan baragraff 15(1)—

(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi ei dorri neu nad oes cydymffurfiad ag ef; neu

(b)bod y ceisydd wedi cyflawni trosedd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(1),

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant neu unrhyw ran ohono yn ôl mewn perthynas â'r cais, ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd drwy hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, pa un a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd, ynteu i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraffau 8(2)(a) neu 16(2)(a).

(2Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.