2012 Rhif 320 (Cy.51) (C.10)
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 20091 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.
2
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 10 Chwefror 20122
Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 10 Chwefror 2012—
a
adran 3 (cyfeillion achos);
b
adran 7 (gweithdrefn y tribiwnlys);
c
adran 8 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau);
ch
adran 11 (gweithdrefn y tribiwnlys)2;
d
adran 12 (cyfeillion achos)3;
dd
adran 17 (treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad);
e
adran 18 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn);
f
adran 19 (dehongli adrannau 17 ac 18);
ff
adran 23 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen; a
g
paragraffau 1 a 4 o'r Atodlen.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 20123
Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—
a
adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);
b
adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);
c
adran 4 (cyngor a gwybodaeth);
ch
adran 5 (datrys anghydfodau);
d
adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
dd
adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);
e
adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);
f
adran 13 (cyngor a gwybodaeth);
ff
adran 14 (datrys anghydfodau);
g
adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
ng
adran 16 (rôl Gweinidogion Cymru);
h
adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a
i
paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.
Darpariaethau Trosiannol4
Ar unrhyw adeg pan fo rheoliadau o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn grym—
a
mae adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 4(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym;
b
mae adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 5(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Ducpwyd darpariaethau canlynol Mesur 2009 i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 20 | 11 Mehefin 2011 | |
Adran 21 | 1 Medi 2011 | |
Adran 22 | 1 Medi 2011 |