2012 Rhif 322 (Cy.53)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 326A(4) a (6), 332ZC(1) a (3), 333(5), 334(2), 336(1),(2),(2A) a (4A), 336A a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 20102 a pharagraffau 6A3, 6(1), (2), (3), (4), (5) a (7) o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24(1) o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 20074, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud i'r graddau y mae cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn ofynnol gan adrannau 333(5), 334(2), a 336A(2)(b) o Ddeddf Addysg 1996.