- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Rhaid gwneud apêl i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad pan roddwyd yr hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol ac o'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan Ran 4 o Ddeddf 1996(1).
(2) Mewn perthynas ag apêl neu apêl arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan adran 332BA o Ddeddf 1996(2) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.
(3) Rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ddatgenir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010(3).
(4) Mewn perthynas â hawliad neu hawliad arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan baragraff 6C o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4) neu gymodi o dan adran 27(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2006(5) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 17, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried—
(a)cais apêl oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (1) a (2);
(b)cais hawlio oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (3) a (4).
Gweler Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 2002, rheoliad 5 (cyflwyno dogfennau) (O.S. 2002/152).
Mewnosodwyd adran 332BA gan adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2009.
Mae paragraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys. Mae is-baragraff (2) yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag achosion, neu achosion arfaethedig, pan gyfeirir yr anghydfod ar gyfer cymodi.
Mewnosodwyd paragraff 6C yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan O.S. 2011/1651.
2006 p.3; amnewidiwyd adran 27(1) gan baragraff 16 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010; ail-rifwyd paragraff 16 fel paragraff 71 o Atodlen 26 gan baragraff 1(c) o Atodlen 1 i O.S. 2010/2279; diwygiwyd adran 27(1) yn ddiweddarach gan O.S. 2011/1060.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: