23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion apêl os, ar ôl y dyddiad y gwnaed y penderfyniad a herir gan yr awdurdod lleol, nad yw'r awdurdod lleol bellach yn gyfrifol am y plentyn o fewn ystyr adran 321(3) o Ddeddf 1996 (“yr hen awdurdod”).
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y Llywydd orchymyn, at holl ddibenion yr apêl ac wrth gael tystiolaeth bod y rheoliad hwn yn gymwys, y disodlir enw'r hen awdurdod gan enw'r awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn o fewn ystyr adran 321(3) o Ddeddf 1996 (“yr awdurdod newydd”).
(3) Rhaid rhoi cyfle i'r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a'r apelydd gael eu clywed cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2).
(4) Pan wneir gorchymyn o dan baragraff (2)—
(a)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a'r apelydd;
(b)ni fydd yr hen awdurdod bellach yn barti yn yr apêl;
(c)bydd yr awdurdod newydd yn dod yn barti yn yr apêl;
(ch)bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai'r awdurdod newydd wedi gwneud y penderfyniad a herir;
(d)rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copïau at yr awdurdod newydd o'r holl ddogfennau a thystiolaeth ysgrifenedig a gafodd y Tribiwnlys gan yr apelydd a chan yr hen awdurdod mewn perthynas â'r apêl;
(dd)bydd y weithdrefn ar gyfer penderfynu'r apêl yn ailgychwyn, a rheoliad 15 yn gymwys fel pe bai'r dogfennau a'r dystiolaeth ysgrifenedig a anfonwyd yn unol ag is-baragraff (d) yn rhan o'r cais apêl y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).