- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Caiff y Llywydd orchymyn—
(a)bod y cais apêl neu'r cais hawlio yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant yr apelydd neu'r hawlydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 26, yn rhagfarnu neu'n oedi gwrandawiad teg o'r apêl neu'r hawliad;
(b)na chaiff yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol gymryd unrhyw gam pellach yn yr apêl neu'r hawliad na bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yno ar y sail bod methiant yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 26, yn rhagfarnu neu'n oedi gwrandawiad teg o'r apêl neu'r hawliad.
(2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i'r Llywydd roi hysbysiad i'r parti y bwriada'r Llywydd wneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i'r Llywydd ystyried unrhyw sylwadau a wneir.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;
(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
(4) Os dilëir cais apêl neu gais hawlio o dan baragraff (1)(a), ystyrir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: