- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
41.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) a rheoliad 42, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â'r partïon, bennu dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad ac anfon hysbysiad sy'n nodi dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad at bob parti.
(2) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi gofyn i barti ddarparu manylion o'r adegau y byddai ar gael i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, a'r parti hwnnw heb gydymffurfio â'r cais, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys fynd ymlaen i restru'r apêl neu'r hawliad ar gyfer gwrandawiad heb ymgynghori ymhellach.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r hysbysiad o wrandawiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei anfon—
(a)mewn perthynas â gwrandawiad o dan reoliadau 25, 27, 29, 56 neu 57, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer gwrandawiad;
(b)mewn unrhyw achos arall, ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad; neu
(c)mewn unrhyw achos, o fewn cyfnod o amser byrrach cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad yn is-baragraffau (3)(a) neu (3)(b), fel a gytunir rhwng y partïon.
(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gynnwys yn yr hysbysiad o wrandawiad, neu gyda'r hysbysiad o wrandawiad—
(a)gwybodaeth a chanllawiau, mewn ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ynglŷn â phresenoldeb y partïon a'r tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a'r hawl i gynrychiolaeth neu gymorth fel a ddarperir gan reoliad 53; a
(b)datganiad sy'n esbonio'r canlyniadau posibl os methir â bod yn bresennol, a'r hawl sydd gan y canlynol i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig—
(i)yr apelydd neu'r hawlydd os na fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli;
(ii)yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol os na chynrychiolir ef ac os cyflwynodd ddatganiad o'i achos, oni fydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw'n gwrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, neu wedi tynnu'n ôl ei wrthwynebiad i'r apêl neu'r hawliad.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys newid lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i'r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu gyfnod llai fel a gytunir rhwng y partïon) o rybudd ynghylch lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad.
(6) Os yw'r partïon yn bresennol pan fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn cyhoeddi lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad, ni fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad pellach.
(7) Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (5) sy'n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i'w gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o'r fath.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: