- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
48.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, pan wneir cais gan barti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bresenoldeb unrhyw berson fel tyst mewn gwrandawiad, ar y cyfryw adeg ac yn y cyfryw le a bennir yn y wŷs ac mewn unrhyw ohiriad o'r gwrandawiad hwnnw neu o weddill y gwrandawiad hwnnw, ac yn y gwrandawiad, ei fod yn ateb unrhyw gwestiynau neu'n dangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall a gedwir gan, neu sydd o dan reolaeth, y person hwnnw ac sy'n ymwneud ag unrhyw fater dan sylw yn yr apêl neu'r hawliad.
(2) Rhaid peidio â gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall, na ellid gorfodi'r person i'w rhoi neu i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn.
(3) Wrth arfer y pŵer a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy'n ymwneud ag amgylchiadau personol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy'n cynnwys gwybodaeth a fynegwyd neu a gafwyd yn gyfrinachol.
(4) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o'r gwrandawiad i'r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys fod y person yn derbyn y rhybudd a roddwyd.
(5) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu'n dangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu'i gynnig, sy'n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol presenoldeb y person hwnnw.
(6) Rhaid i barti sy'n gofyn am wŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu'n ddiweddarach os yw'r person y cyfeirir y wŷs ato yn cydsynio mewn ysgrifen.
(7) Rhaid i wŷs tyst gynnwys—
(a)mewn perthynas ag apêl, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan adran 336 o Ddeddf 1996, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol;
(b)mewn perthynas â hawliad, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol; a
(c)datganiad o effaith paragraff (8).
(8) Caiff person y cyfeirir gwŷs tyst ato wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio'r wŷs neu'i gosod o'r neilltu.
(9) Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys beidio ag amrywio na gosod o'r neilltu wŷs tyst heb yn gyntaf hysbysu'r parti a wnaeth gais am ddyroddi'r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: