- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
50.—(1) Ar ddechrau'r gwrandawiad, caiff parti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar gyfer ei derbyn—
(a)os yw'r partïon yn cytuno i dderbyn y dystiolaeth bellach; neu
(b)os yw'r dystiolaeth yn bodloni'r amodau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
(a)nad oedd y dystiolaeth ar gael ac nad oedd modd, yn rhesymol, iddi fod ar gael i'r parti hwnnw cyn diwedd y cyfnod datganiad achos; a
(b)y cyflwynwyd copi o'r dystiolaeth i Ysgrifennydd y Tribiwnlys a chyflwynwyd copi o'r dystiolaeth i'r parti arall o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
(3) Ni cheir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)(b) ac eithrio, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau gan y parti arall, nad yw maint a ffurf y dystiolaeth honno'n debygol o rwystro cynnal y gwrandawiad yn effeithlon.
(4) Rhaid peidio â derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach os byddai ei derbyn, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn groes i fuddiannau cyfiawnder.
(5) Pan na fodlonir yr amodau ym mharagraff (2), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi caniatâd i barti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach yn y gwrandawiad os yw'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn yr achosid risg ddifrifol o ragfarn yn erbyn y parti sy'n ceisio dibynnu ar y dystiolaeth honno pe na dderbynnid hi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: