RHAN ACYFFREDINOL
Yr amcan gor-redol6
1
Amcan gor-redol y Rheoliadau hyn yw galluogi'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i ymdrin ag apelau a hawliadau yn deg a chyfiawn.
2
Mae ymdrin ag achos yn deg a chyfiawn yn cynnwys—
a
ymdrin â'r apêl neu'r hawliad mewn ffyrdd sy'n gymesur â phwysigrwydd yr achos a chymhlethdod y materion dan sylw;
b
osgoi, i'r graddau y mae'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol, ffurfioldeb diangen yn yr achosion o dan y Rheoliadau hyn;
c
sicrhau, i'r graddau y mae'n ymarferol, y trinnir y partïon yn gyfartal o ran trefniadaeth ac y gallant gyfranogi'n llawn yn yr achosion, gan gynnwys hwyluso unrhyw barti i gyflwyno unrhyw apêl neu hawliad, ond heb argymell pa drywydd y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;
ch
defnyddio arbenigedd neilltuol y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn effeithiol; a
d
osgoi oedi, i'r graddau sy'n gyson â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
3
Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys geisio rhoi effaith i amcan gor-redol y Rheoliadau hyn pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
a
yn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn; neu
b
yn dehongli unrhyw reoliad.
4
Yn benodol, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd camau ymarferol i reoli apelau a hawliadau yn unol ag amcan gor-redol y Rheoliadau hyn.