- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
62.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os trinnir apêl i'r Tribiwnlys, o dan adran 326A(2) o Ddeddf 1996, fel pe bai wedi ei phenderfynu o blaid yr apelydd, rhaid i'r awdurdod lleol—
(a)yn achos apêl o dan adran 325 o Ddeddf 1996, wneud datganiad o fewn 5 wythnos;
(b)yn achos apêl o dan adran 328, 329 neu 329A o Ddeddf 1996, wneud asesiad o fewn 5 wythnos; ac
(c)yn achos apêl o dan baragraff 8(3) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 yn erbyn penderfyniad i beidio â chydymffurfio â chais yr apelydd i roi enw ysgol a gynhelir yn lle enw'r ysgol neu'r sefydliad a bennir yn y datganiad, gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn 2 wythnos.
(2) Ym mhob achos ym mharagraff (1), mae'r cyfnod yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf wedi i'r awdurdod lleol hysbysu'r Tribiwnlys nad yw'n gwrthwynebu'r apêl.
(3) Nid oes raid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) os yw gwneud hynny yn anymarferol oherwydd—
(a)amgylchiadau personol eithriadol sy'n effeithio ar y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn yn ystod y cyfnod perthnasol o amser;
(b)bod y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, yn absennol o ardal yr awdurdod lleol am gyfnod parhaol o ddim llai na 2 wythnos yn ystod y cyfnod perthnasol o amser;
(c)bod y rhiant wedi dynodi bod y rhiant yn dymuno cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch yr hyn a gynhwysir yn y datganiad, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ar ôl diwedd y cyfnod o 15 niwrnod ar gyfer gwneud sylwadau o'r fath a ddarperir ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno;
(ch)bod cyfarfod rhwng y rhiant a swyddog o'r awdurdod lleol wedi ei gynnal o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, a'r rhiant, o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno, wedi ei gwneud yn ofynnol bod cyfarfod arall o'r fath, neu gyfarfod gyda'r person priodol, yn cael ei drefnu, neu
(d)bod yr awdurdod lleol wedi anfon cais ysgrifenedig at Weinidogion Cymru i ofyn am eu cydsyniad o dan adran 347(5) o Ddeddf 1996 i'r plentyn gael ei addysgu mewn ysgol annibynnol nas cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac nad oedd yr awdurdod lleol wedi cael y cyfryw gydsyniad o fewn 3 wythnos o'r diwrnod yr anfonwyd y cais.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: