Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

Rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu

7.—(1Rhaid i'r partïon—

(a)cydweithredu â'i gilydd er mwyn gyrru'r apêl neu'r hawliad yn ei flaen;

(b)cydweithredu drwy roi dogfennau neu wybodaeth i'w gilydd, er mwyn galluogi pob parti i baratoi datganiad achos;

(c)cynorthwyo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i hyrwyddo amcan gor-redol y Rheoliadau hyn; ac

(ch)cydweithredu â'r Llywydd a'r panel tribiwnlys yn gyffredinol.

(2Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys dynnu pa bynnag gasgliadau gwrthwynebus a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, o fethiant parti i gydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau a bennir ym mharagraff (1).

(3Pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys wedi tynnu casgliad gwrthwynebus o dan baragraff (2), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gyfarwyddo Ysgrifennydd y Tribiwnlys i gyflwyno hysbysiad i'r parti diffygiol bod y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn i ddileu—

(a)yr apêl, os yr apelydd yw'r parti diffygiol;

(b)yr hawliad, os yr hawlydd yw'r parti diffygiol;

(c)y datganiad achos a'r dystiolaeth ysgrifenedig, os yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yw'r parti diffygiol.

(4Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff (3) wahodd sylwadau a rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti diffygiol y caiff y parti hwnnw, o fewn cyfnod (ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;

(b)bydd sylwadau wedi'u gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(6Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y parti diffygiol, orchymyn dileu achos y parti hwnnw.