RHAN ACYFFREDINOL

Dulliau amgen o ddatrys anghydfod

8.—(1Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys geisio, pan fo'n briodol, tynnu sylw'r partïon at unrhyw weithdrefn amgen briodol sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod.

(2Os yw'r partïon yn dymuno defnyddio'r weithdrefn amgen i ddatrys yr anghydfod, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar yr amod bod hynny'n gyson ag amcan gor-redol y Rheoliadau hyn, ohirio ystyriaeth o'r apêl neu'r hawliad.