Search Legislation

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5Iawndal

Dehongli'r Rhan hon

18.  Yn y Rhan hon—

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), mewn perthynas ag arfer neu arfer honedig o bŵer o dan adran 22 neu 28 o'r Ddeddf—

(a)

os oedd yr arfer neu'r arfer honedig o'r pŵer gan swyddog gorfodi, yw Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd, neu

(b)

os oedd yr arfer neu'r arfer honedig o'r pŵer gan gwnstabl, yw awdurdod heddlu yr heddlu y mae'r cwnstabl yn aelod ohono;

mae i “hawlydd” (“claimant”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 20(1);

mae i “hysbysiad am hawliad” (“notice of claim”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 20(1);

ystyr “hysbysiad penderfynu” (“decision notice”) yw hysbysiad a ddyroddwyd gan awdurdod perthnasol o dan reoliad 22(2)(b) neu (3); ac

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw person a ddynodwyd at ddibenion adran 22 neu 28 o'r Ddeddf (pwerau gorfodi) gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd.

Hawl i gael iawndal am ddifrod i eiddo

19.—(1Mae gan berson y mae ei eiddo wedi ei ddifrodi yn ystod arfer neu arfer honedig o bŵer o dan adran 22 neu 28 o'r Ddeddf hawl i gael iawndal gan yr awdurdod perthnasol yn unol â'r Rhan hon.

(2Ond nid oes gan berson sydd, yn ôl cred resymol yr awdurdod perthnasol, yn gyfrifol am dorri'r Rheoliadau hyn, hawl i gael iawndal.

(3Swm yr iawndal sy'n daladwy yw cyfanswm—

(a)cost trwsio'r eiddo er mwyn ei adfer i'w gyflwr blaenorol (neu, yn achos eiddo sy'n amhosibl, neu nad yw'n werth chweil yn fasnachol, ei drwsio, cost rhoi eiddo newydd yn ei le), a

(b)unrhyw golled arall a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i'r difrod i'r eiddo.

Hysbysiad am hawliad

20.—(1Caiff person sydd â hawl i gael iawndal o dan y Rhan hon (“hawlydd”) anfon hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad am hawliad”) i'r awdurdod perthnasol yn hawlio'r iawndal hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad am hawliad gael ei anfon o fewn—

(a)cyfnod o 30 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y digwyddodd y difrod, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno gan yr awdurdod perthnasol mewn ysgrifen.

(3Rhaid i hysbysiad am hawliad gynnwys yr holl wybodaeth a thystiolaeth ganlynol neu rhaid iddynt ddod gyda'r hysbysiad hwnnw—

(a)enw llawn yr hawlydd,

(b)y dyddiad y digwyddodd y difrod,

(c)y cyfeiriad neu'r man lle y digwyddodd y difrod,

(ch)disgrifiad—

(i)o'r eiddo a ddifrodwyd,

(ii)o natur y difrod, a

(iii)o natur unrhyw golled pellach a ddeilliodd yn uniongyrchol o'r difrod y mae iawndal yn cael ei hawlio amdano,

(d)swm yr iawndal sy'n cael ei hawlio (yn unol â rheoliad 19(3)) a'r sail a ddefnyddir i gyfrifo swm yr iawndal, a

(dd)ffotograffau, derbynebau, dyfynbrisiau neu dystiolaeth arall am y materion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (b) i (d).

Pwyso a mesur a yw'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gafwyd yn ddigonol

21.—(1O fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn cael hysbysiad am hawliad, rhaid iddo ddyfarnu a yw wedi cael digon o wybodaeth a thystiolaeth i'w alluogi i benderfynu'r materion a ganlyn—

(a)a oes gan yr hawlydd hawl i gael iawndal o dan y Rhan hon,

(b)ac os oes, swm yr iawndal.

(2Os yw'r awdurdod yn dyfarnu nad yw wedi cael digon o wybodaeth neu dystiolaeth, rhaid iddo anfon at yr hawlydd hysbysiad ysgrifenedig yn nodi'r wybodaeth neu'r dystiolaeth bellach y mae ei hangen ar yr awdurdod.

(3Rhaid i'r hawlydd anfon i'r awdurdod yr wybodaeth neu'r dystiolaeth a nodir yn yr hysbysiad hwnnw o fewn—

(a)cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y bydd yr hawlydd yn cael yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno gan yr awdurdod perthnasol mewn ysgrifen.

(4O fewn cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y bydd yr awdurdod yn cael unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach ar ôl hysbysiad o'r fath, rhaid iddo wneud y dyfarniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) unwaith eto (a bydd paragraffau eraill y rheoliad hwn yn gymwys i'r dyfarniad newydd hwnnw).

Penderfyniad awdurdod ar hawliad

22.—(1Os yw awdurdod perthnasol yn dyfarnu o dan reoliad 21 ei fod wedi cael digon o wybodaeth a thystiolaeth, rhaid iddo, o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad y dyfarniad hwnnw, benderfynu'r materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 21(1)(a) a (b).

(2Os yw'r awdurdod yn penderfynu bod gan yr hawlydd hawl i gael iawndal, rhaid iddo—

(a)talu i'r hawlydd y swm iawndal a nodir yn yr hysbysiad am hawliad, neu

(b)os yw'n penderfynu bod gan yr hawlydd hawl i gael swm iawndal llai, anfon hysbysiad mewn ysgrifen at yr hawlydd—

(i)yn cynnig y swm llai hwnnw i'r hawlydd, a

(ii)yn datgan y rhesymau dros ei benderfyniad.

(3Os yw'r awdurdod yn penderfynu nad oes hawl gan yr hawlydd i gael iawndal, rhaid iddo anfon hysbysiad mewn ysgrifen at yr hawlydd—

(i)yn gwrthod yr hawliad, a

(ii)yn nodi'r rhesymau dros ei benderfyniad.

(4Caiff hawlydd sy'n cael hysbysiad penderfynu sy'n cynnig swm iawndal sy'n llai na'r hyn a nodwyd yn yr hysbysiad am hawliad gytuno, mewn ysgrifen, i dderbyn y swm llai hwnnw (ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r awdurdod dalu'r swm hwnnw i'r hawlydd).

(5Rhaid i hysbysiad penderfynu gynnwys manylion hawliau'r hawlydd—

(a)i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad, o dan reoliad 23, a

(b)i apelio yn erbyn penderfyniad ar adolygiad, o dan reoliad 24.

Adolygu penderfyniad ar hawliad

23.—(1Caiff hawlydd sy'n cael hysbysiad penderfynu ofyn i'r awdurdod perthnasol adolygu ei benderfyniad.

(2Rhaid bod cais o'r fath—

(a)mewn ysgrifen,

(b)yn cael ei wneud o fewn—

(i)cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafwyd yr hysbysiad penderfynu, neu

(ii)unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno mewn ysgrifen gan yr awdurdod perthnasol, ac

(c)yn cynnwys yr wybodaeth neu'r dystiolaeth honno y mae'r hawlydd yn barnu ei bod yn berthnasol neu rhaid bod gwybodaeth neu dystiolaeth o'r fath yn dod gyda'r cais.

(3O fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y bydd awdurdod perthnasol yn cael cais o'r fath, rhaid iddo adolygu ei benderfyniad o dan reoliad 22.

(4Wrth adolygu ei benderfyniad, caiff yr awdurdod—

(a)cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol, neu

(b)rhoi penderfyniad newydd yn lle'r penderfyniad gwreiddiol.

(5Ond wrth adolygu ei benderfyniad, ni chaiff yr awdurdod roi swm iawndal llai yn lle'r hyn a nodwyd yn yr hysbysiad penderfynu.

(6Rhaid i'r awdurdod anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr hawlydd yn rhoi gwybod iddo am ei benderfyniad ar yr adolygiad a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(7Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (6) gynnwys manylion hawl yr hawlydd i apelio yn erbyn penderfyniad ar adolygiad o dan reoliad 24.

Apelio i'r llys sirol

24.—(1Caiff hawlydd sy'n anfodlon ar benderfyniad yr awdurdod perthnasol ar adolygiad o dan reoliad 23 apelio i'r llys sirol.

(2Rhaid dwyn apêl o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd yr hawlydd hysbysiad ysgrifenedig am benderfyniad yr awdurdod ar adolygiad.

(3Caiff y llys roi caniatâd i apêl gael ei dwyn ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, ond dim ond os yw wedi ei fodloni—

(a)pan fo caniatâd yn cael ei geisio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da pam nad yw'r hawlydd yn gallu dwyn yr apêl mewn pryd, neu

(b)pan fo caniatâd yn cael ei geisio ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da dros fethiant yr hawlydd i ddwyn yr apêl mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(4Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ailwrandawiad a chaiff y llys wneud y cyfryw orchymyn yn cadarnhau, yn diddymu neu'n amrywio'r penderfyniad ag y gwêl yn dda.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources