Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “academi” (“academy”) yw ysgol annibynnol yn Lloegr y mae trefniadau academi yn gymwys iddi;
ystyr “coleg dinasol” (“city college”) yw coleg technoleg dinasol neu goleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau;
ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth o dan gontract cyflogaeth neu gymryd person ymlaen i ddarparu gwasanaethau mewn modd heblaw o dan gontract cyflogaeth; ac mae cyfeiriadau at fod yn “gyflogedig” i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun a ddisgrifir yn rheoliad 8 neu'r cynlluniau a ddisgrifir ym mharagraffau 3 i 5 o Atodlen 1 pan fo'r cyd-destun yn mynnu hynny;
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn Lloegr” (“employment-based teacher training scheme in England”) yw cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliadau a wnaed o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002 lle y caiff person ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra bo'n gyflogedig i addysgu;
ystyr “safonau penodedig” (“specified standards”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig eu bodloni;
ystyr “safonau penodedig yn Lloegr” (“specified standards in England”) yw'r safonau sy'n gymwys ar adeg yr asesiad fel a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dro i dro fel y safonau y mae gofyn i bersonau sy'n ceisio ennill statws athro cymwysedig yn Lloegr eu bodloni;
ystyr “sefydliad” (“institution”) oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu sefydliad o fewn y sector addysg uwch;
ystyr “sefydliad achrededig” (“accredited institution”) yw sefydliad wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7;
ystyr “sefydliad achrededig yn Lloegr” (“accredited institution in England”) yw sefydliad wedi ei gymeradwyo neu ei achredu fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn Lloegr o dan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “sefydliad estron” (“foreign institution”) yw unrhyw sefydliad ac eithrio sefydliadau yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom institution”) yw sefydliad a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig, heblaw am un sydd yn, neu'n ffurfio rhan o sefydliad lle y mae'r prif sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu'n gysylltiedig â sefydliad o'r fath;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol neu ysgol arbennig nas cynhelir felly; ac
Dirymu a darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol
4.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau 2004 wedi eu dirymu.
(2)
Bydd y darpariaethau arbed a'r darpariaethau trosiannol yn Atodlen 1 yn cael effaith.
Statws Athro Cymwysedig
5.
Yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 o Reoliadau 1999, mae personau yn athrawon cymwysedig os ydynt yn bersonau a grybwyllir—
(a)
ym mharagraffau 1 i 7 o Atodlen 2 sydd wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;
(b)
ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—
(i)
y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny; a
(ii)
eu bod wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor yn unol â rheoliad 6;
(c)
ym mharagraffau 4 i 10 o Atodlen 2 sydd yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; neu
(ch)
ym mharagraffau 11 i 14 o Atodlen 2.
Hysbysiad am statws athro cymwysedig
6.
(1)
Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(2)
Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 4 i 7 o Atodlen 2 nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(3)
Rhaid i bersonau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2—
(a)
nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5(c) ar y sail nad ydynt yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o ran Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002; a
(b)
y mae Adran Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno datganiad i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor mewn cysylltiad â hwy, eu bod yn bodloni'r gofynion a bennir yn un o'r paragraffau hynny,
gael eu hysbysu yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor eu bod yn athrawon cymwysedig.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) i (9), mae personau sy'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraffau (1), (2) neu (3) wedi cymhwyso o'r dyddiad hwnnw a ddarperir yn yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru neu'r Cyngor.
(5)
Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y mae'r asesiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cael ei gwblhau.
(6)
Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 5 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y cwblhawyd y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon yn llwyddiannus.
(7)
Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 6 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru'n llawn fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.
(8)
Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraff 7 o Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor ddarparu bod y personau hynny yn athrawon cymwysedig o'r dyddiad y maent yn cofrestru fel athrawon ysgol gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
(9)
Yn achos personau a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10 o Atodlen 2 rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Cyngor beidio â darparu y bydd y personau hynny yn athrawon cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad y maent yn cwblhau cyfnod o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Adran Addysg Taleithiau Guernsey.
Sefydliadau Achrededig
7.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad fel darparwr cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol.
(2)
Dim ond os yw'n bodloni'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro y caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru achredu sefydliad.
(3)
Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru dynnu achrediad sefydliad yn ôl yn unol â'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu gan Weinidogion Cymru o dro i dro.
(4)
Cyn pennu meini prawf o dan baragraffau (2) a (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth
8.
(1)
(2)
Enw cynllun a sefydlwyd o dan baragraff (1) fydd cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(3)
Caiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth ar gyfer rhaglen hyfforddiant y mae'n rhaid i bersonau ei gwneud.
(4)
Caiff cynllun o'r fath ddarparu bod personau yn cael eu hasesu gan sefydliad achrededig er mwyn penderfynu a ydynt yn bodloni'r safonau penodedig heb gael hyfforddiant pellach.
(5)
Rhaid i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth yn rhinwedd y rheoliad hwn ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno.
Diwygiadau Canlyniadol
9.
Yn rheoliadau 11, 12 ac 13(1) o Reoliadau 1999, yn lle “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004” rhodder “yn athro cymwysedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”.
10.
(a)
ym mharagraff 22(c) mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddynt neu”;
(b)
“(ch)
wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.”;
(c)
ym mharagraff 23(a)—
(i)
mewnosoder, ar ôl “yn athro neu athrawes gymwysedig” y geiriau “yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddynt neu”; a
(ii)
ar ôl “ac a ddaeth” mewnosoder “yn y naill achos neu'r llall”;
(ch)
“(b)
wedi ei asesu gan sefydliad sydd wedi ei achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012, neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.”.
11.
(a)
yn rheoliad 2—
(i)
hepgorer y diffiniad o “cymhwyster athrawon ysgol” (“school teachers' qualification”);
(ii)
yn y man priodol, mewnosoder “ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012”; a
(b)
ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 3—
(i)
ar ôl “(os digwydd),” mewnosoder “un ai bod yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau 2012 neu”;
(ii)
hepgorer is-baragraff (a).