20.—(1) Ar ôl cael cais y cyfeirir ato yn rheoliad 19(1), caiff yr awdurdod sy'n penderfynu naill ai—
(a)penderfynu'r cais; neu
(b)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd i hysbysu personau penodedig o'r cais, a chaniatáu cyfle i'r personau hynny wneud sylwadau cyn penderfynu'r cais.
(2) Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu—
(a)hysbysu'r ceisydd, mewn ysgrifen, o'i benderfyniad ac o'r rhesymau drosto;
(b)cyhoeddi'r penderfyniad, a'r rhesymau drosto, ar wefan briodol.