xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Rhaid i gais o dan adran 16 o Ddeddf 2006—
(a)cael ei wneud mewn ysgrifen ar ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen honno; ac
(c)cael ei lofnodi gan bob un o'r ceiswyr neu'u cynrychiolwyr.
(2) Rhaid cyflwyno'r cais ynghyd ag—
(a)map Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:2,500 os oes map o'r fath ar gael, a dim llai nag 1:10,000 ym mhob achos, sy'n dangos—
(i)ffin y tir rhyddhau wedi ei marcio â lliw coch;
(ii)os yw'r tir rhyddhau yn ffurfio rhan o'r tir mewn uned cofrestr fwy, ffin y tir yn yr uned cofrestr honno wedi ei marcio â lliw gwyrdd tywyll; a
(iii)ffin unrhyw dir cyfnewid wedi ei marcio â lliw gwyrdd golau; a
(b)copi o'r cofnod yn y gofrestr sy'n ymwneud â'r tir rhyddhau neu'r tir sy'n ei gynnwys.
6.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael cais, rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu anfon at y ceisydd i gydnabod ei fod wedi ei gael, a rhaid i'r gydnabyddiaeth honno gynnwys —
(a)y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r cais; a
(b)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost lle gellir anfon cyfathrebiadau ysgrifenedig ynglŷn â'r cais at yr awdurdod sy'n penderfynu.
(2) Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu, naill ai ar yr adeg y mae'n cael y cais neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau o dan reoliad 10, benderfynu pa un a ymdrinnir â'r cais—
(a)ar sail sylwadau ysgrifenedig,
(b)mewn gwrandawiad, neu
(c)mewn ymchwiliad cyhoeddus,
a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw.
(3) Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n penderfynu ac os penderfynant yr ymdrinnir â'r cais mewn gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus, rhaid iddynt benodi arolygydd i gynnal unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad ac i ddarparu adroddiad ac argymhelliad i Weinidogion Cymru.
(4) Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu, naill ai wrth gydnabod y cais neu ar unrhyw adeg ddiweddarach, roi cyfarwyddyd i'r ceisydd i—
(a)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau a hepgorwyd o'r cais;
(b)darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi penderfynu'r cais; neu
(c)anfon hysbysiad o'r cais at bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd, neu arddangos hysbysiad o'r cais mewn mannau a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ychwanegol at y gofynion yn rheoliad 7(1).
(5) Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu bennu terfyn amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn.
7.—(1) Rhaid i'r ceisydd, ddim hwyrach na saith diwrnod ar ôl gwneud cais—
(a)cyhoeddi hysbysiad o'r cais mewn newyddiadur sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir rhyddhau ac unrhyw dir cyfnewid ynddi;
(b)am gyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, arddangos hysbysiad o'r cais yn y prif fannau mynediad i'r canlynol (neu, os nad oes mannau o'r fath, mewn man amlwg ar ffin y canlynol)—
(i)y tir rhyddhau; a
(ii)y tir cyfnewid (os oes tir o'r fath); ac
(c)anfon hysbysiad o'r cais at—
(i)unrhyw berson (ac eithrio'r ceisydd) sydd â meddiant o'r tir;
(ii)meddiannydd unrhyw eiddo a ddangosir yn y gofrestr fel eiddo sydd â hawliau comin dros y tir rhyddhau ynghlwm wrtho, os yw'r ceisydd yn credu bod y meddiannydd hwnnw'n arfer yr hawliau hynny, neu y byddai'r cais yn debygol o effeithio ar y meddiannydd;
(iii)unrhyw berson arall y mae'n hysbys i'r ceisydd fod hawl ganddo i arfer hawliau comin dros y tir rhyddhau, os yw'r ceisydd yn credu bod y person hwnnw'n arfer yr hawliau hynny, neu y byddai'r cais yn debygol o effeithio ar y person hwnnw; a
(iv)y cyngor cymuned (os oes un) ar gyfer yr ardal y lleolir y tir rhyddhau a'r tir cyfnewid ynddi.
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys y manylion canlynol—
(a)enw'r ceisydd;
(b)enw'r tir comin neu'r maes tref neu bentref yr effeithid arno gan y cynnig;
(c)lleoliad y tir rhyddhau a'i arwynebedd mewn metrau sgwâr;
(ch)pa un a oes cynnig wedi ei gynnwys yn y cais i gofrestru tir fel tir cyfnewid ai peidio, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid a'i arwynebedd mewn metrau sgwâr;
(d)datganiad cryno o'r rheswm dros wneud y cais;
(dd)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost lle gellir anfon unrhyw sylwadau;
(e)y dyddiad pan ddaw'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau i ben, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cydymffurfir yn llawn â pharagraff (1);
(f)cyfeiriad lle mae'r ffurflen gais a'r dogfennau a restrir yn rheoliad 5(2) ar gael i'w harchwilio;
(ff)yr amseroedd a'r dyddiadau pan ganiateir archwilio felly, sef amseroedd a dyddiadau y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliad 8(2); a
(g)cyfeiriad lle y gellir anfon i gael copi gan y ceisydd o'r ffurflen gais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais.
(3) Rhaid i'r ceisydd hefyd anfon hysbysiad o'r cais at y cyfryw bersonau, neu arddangos hysbysiad o'r cais yn y cyfryw fannau, fel a gyfarwyddir gan yr awdurdod sy'n penderfynu o dan reoliad 6(4).
(4) Rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad i'r awdurdod sy'n penderfynu pan fo'r ceisydd wedi cydymffurfio â pharagraffau (1) i (3), a rhaid i'r hysbysiad hwnnw—
(a)cynnwys manylion o'r canlynol—
(i)y newyddiadur y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r cais ynddo, a'r dyddiad cyhoeddi;
(ii)y dyddiad y gosodwyd hysbysiad o'r cais ar y tir;
(iii)y personau yr anfonwyd hysbysiad o'r cais atynt, y dyddiad neu'r dyddiadau yr anfonwyd yr hysbysiadau hynny, a natur buddiant pob un o'r personau hynny yn y tir (os oes buddiant); ac
(iv)y man lle gosodwyd hysbysiad o'r cais ar y tir (gan gyfeirio at fap os oes angen); a
(b)cael ei gyflwyno ynghyd â chopi o'r dudalen berthnasol o'r newyddiadur y cyhoeddwyd yr hysbysiad o'r cais ynddo.
(5) Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) wedi dod i ben, a hynny pan nad oes bai ar y ceisydd na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.
8.—(1) Rhaid i'r ceisydd sicrhau bod copïau o'r cais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais ar gael i'w harchwilio yn y cyfeiriad a bennwyd at y diben hwnnw yn yr hysbysiad o gais, ar yr amseroedd a'r dyddiadau a bennwyd yn yr hysbysiad o gais.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r amseroedd a'r dyddiadau pan yw'n ofynnol bod y cais a'r dogfennau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais ar gael i'w harchwilio gynnwys yr holl oriau swyddfa arferol yn ystod cyfnod o ddim llai nag 28 diwrnod, sy'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau.
(3) Caiff unrhyw berson ofyn am gopi gan y ceisydd, o'r cais ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd ynghyd ag ef, drwy ysgrifennu i'r cyfeiriad a bennir at y diben hwnnw yn yr hysbysiad o gais.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r ceisydd ymateb i gais am gopïau o dan baragraff (3) drwy gyflenwi'r dogfennau y gofynnwyd amdanynt cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(5) Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu roi cyfarwyddyd sy'n awdurdodi trefniadau eraill ar gyfer archwilio neu gyflenwi copïau o ddogfennau, os bodlonir yr awdurdod na ellir, yn rhesymol, ddisgwyl i'r ceisydd gydymffurfio â'r rhwymedigaeth ym mharagraff (2) neu (4).
9. Os yw'r ceisydd yn peidio â chydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan reoliad 6, caiff yr awdurdod sy'n penderfynu—
(a)trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu'n ôl;
(b)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd i unioni'r methiant i gydymffurfio (ac os yw'n briodol, estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau); neu
(c)diystyru'r methiant i gydymffurfio, os bodlonir yr awdurdod sy'n penderfynu y byddai'n afresymol gwneud cydymffurfio'n ofynnol ac nad yw'n debygol y niweidir neb oherwydd y methiant i gydymffurfio.
10.—(1) Caiff unrhyw berson anfon sylwadau ynglŷn â'r cais at yr awdurdod sy'n penderfynu erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o gais.
(2) Rhaid i sylwadau o dan baragraff (1)—
(a)datgan enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau, a natur buddiant y person hwnnw (os oes buddiant) yn y tir rhyddhau neu unrhyw dir cyfnewid;
(b)bod mewn ysgrifen ac wedi eu llofnodi gan y person sy'n eu gwneud; ac
(c)datgan ar ba seiliau y gwneir y sylwadau.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau, rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu naill ai—
(a)hysbysu'r ceisydd nad oes unrhyw sylwadau wedi eu gwneud; neu
(b)anfon at y ceisydd gopi o'r holl sylwadau a gafwyd.
(4) Pan fo'r ceisydd wedi cael copi o sylwadau o dan baragraff (3)(b), caiff y ceisydd anfon ymateb i'r sylwadau hynny at yr awdurdod sy'n penderfynu, o fewn 21 diwrnod ar ôl cael copi o'r fath.
(5) Rhaid i ymateb o dan baragraff (4) fod mewn ysgrifen ac wedi ei lofnodi gan y ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd.
(6) Yn achos dogfen a anfonir gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig yn unol â'r Rheoliadau hyn, bodlonir y gofynion ym mharagraffau (2) a (5), sef bod y ddogfen wedi ei llofnodi, os yw'r person y mae'n ofynnol iddo lofnodi'r ddogfen yn teipio enw'r person hwnnw neu'n cynhyrchu llofnod y person hwnnw drwy ddefnyddio cyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall.
11.—(1) Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid iddo sicrhau—
(a)y cyhoeddir hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad ar wefan briodol, a hefyd mewn newyddiadur sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir rhyddhau ac unrhyw dir cyfnewid ynddi;
(b)yr anfonir hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad at unrhyw berson a wnaeth sylwadau yn unol â rheoliad 10; ac
(c)os yw'r awdurdod sy'n penderfynu o'r farn bod angen hynny, y rhoddir cyhoeddusrwydd i hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad ym mha bynnag ffordd arall, neu'r anfonir yr hysbysiad at ba bynnag bersonau eraill, fel y bo'n briodol er mwyn dwyn y gwrandawiad neu ymchwiliad i sylw personau y mae'r cais yn debygol o effeithio arnynt.
(2) Rhaid i'r hysbysiad o'r gwrandawiad neu ymchwiliad gynnwys—
(a)enw'r ceisydd;
(b)lleoliad y tir rhyddhau;
(c)datganiad pa un a gynigir cofrestru unrhyw dir fel tir cyfnewid ai peidio, ac os felly, lleoliad y tir cyfnewid;
(ch)datganiad i'r perwyl y cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad (yn ôl fel y digwydd) mewn cysylltiad â'r cynnig;
(d)dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad neu ymchwiliad ac enw'r arolygydd; ac
(dd)cyfeiriad lle gellir cael copi o'r ffurflen gais ac o'r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais, gan yr awdurdod sy'n penderfynu.
(3) Ni chaiff y dyddiad a bennir ar gyfer dechrau'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad fod yn gynharach na chwe wythnos ar ôl yr adeg y cydymffurfiwyd â pharagraff (1).
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn ac i reoliadau 13 a 15, mae'r weithdrefn mewn gwrandawiad neu ymchwiliad i'w phenderfynu gan yr arolygydd.
(2) Caiff unrhyw berson sydd â diddordeb yn y mater sydd gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad ymddangos yn y gwrandawid neu ymchwiliad, naill ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd.
(3) Caiff yr arolygydd, ar unrhyw adeg yn ystod gwrandawiad neu ymchwiliad, rwystro unrhyw berson rhag—
(a)rhoi tystiolaeth,
(b)croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth, neu
(c)cyflwyno unrhyw fater,
os yw'r arolygydd o'r farn bod hynny'n amherthnasol neu'n ailadroddus.
(4) Caiff yr arolygydd, os yw'r arolygydd o'r farn bod person yn ymddwyn yn aflonyddgar—
(a)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n gadael gwrandawiad neu ymchwiliad,
(b)rhwystro'r person hwnnw rhag cymryd rhan yn y gwrandawiad neu ymchwiliad drwy roi tystiolaeth, croesholi person sy'n rhoi tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater, neu
(c)caniatáu i'r person hwnnw aros yn y gwrandawiad neu ymchwiliad, neu gymryd rhan ynddo, yn ddarostyngedig i amodau penodedig yn unig.
(5) Caiff yr arolygydd fynd ymlaen â gwrandawiad neu ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos ynddo.
(6) Caiff yr arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gaiff yr arolygydd gan unrhyw berson cyn neu yn ystod gwrandawiad neu ymchwiliad, ar yr amod bod yr arolygydd yn datgelu hynny yn y gwrandawiad neu ymchwiliad.
(7) Caiff yr arolygydd—
(a)gohirio gwrandawiad neu ymchwiliad i'w barhau ar ddyddiad arall;
(b)gohirio gwrandawiad neu ymchwiliad er mwyn ei ailgynnull ar safle'r tir rhyddhau neu unrhyw dir cyfnewid, a chynnal rhan o'r gwrandawid neu ymchwiliad ar y safle hwnnw, ynghyd â chynnal archwiliad safle.
13.—(1) Rhaid i wrandawiad fod ar ffurf trafodaeth dan arweiniad yr arolygydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5) o reoliad 12—
(a)mae hawl gan y ceisydd i roi, neu alw person arall i roi, tystiolaeth ar lafar;
(b)caiff unrhyw berson arall roi tystiolaeth ar lafar gyda chaniatâd yr arolygydd.
(3) Ni chaniateir croesholi oni fydd yr arolygydd yn penderfynu bod hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau archwiliad digonol o'r materion gerbron.
14.—(1) Os penderfynwyd cynnal ymchwiliad, caiff yr arolygydd gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, os yw'r arolygydd o'r farn y byddai'n ddymunol gwneud hynny er mwyn penderfynu pa faterion sydd i'w trafod a pha weithdrefn i'w dilyn yn yr ymchwiliad.
(2) Os yw'r arolygydd yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, rhaid i'r arolygydd roi cyfnod o rybudd o ddim llai na dwy wythnos, mewn ysgrifen, i'r canlynol—
(a)y ceisydd;
(b)unrhyw berson a wnaeth sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â'r cais; ac
(c)unrhyw berson arall y byddai ei bresenoldeb yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad yn ddymunol ym marn yr arolygydd.
(3) Mae paragraffau (1) i (5) o reoliad 12 (i'r graddau y maent yn berthnasol) yn gymwys i gyfarfodydd cyn yr ymchwiliad, fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau.
(4) Mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad, caiff yr arolygydd—
(a)rhoi cyfarwyddiadau i'r ceisydd ac i unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos yn yr ymchwiliad, ynglŷn â'r pethau sydd i'w gwneud i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad; a
(b)pennu dyddiad neu ddyddiadau terfynol ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau o'r fath.
(5) Yn benodol, caiff yr arolygydd gyfarwyddo unrhyw berson sy'n dymuno rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad—
(a)i anfon datganiad ysgrifenedig o'r dystiolaeth honno at yr arolygydd; a
(b)i anfon copi o'r datganiad ysgrifenedig hwnnw at ba bynnag bersonau eraill a bennir gan yr arolygydd.
15.—(1) Ar ddechrau ymchwiliad, rhaid i'r arolygydd—
(a)nodi'r prif faterion sydd i'w hystyried yn yr ymchwiliad;
(b)nodi unrhyw faterion y mae'n ofynnol gan yr arolygydd gael esboniad pellach yn eu cylch gan unrhyw berson sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad; ac
(c)esbonio'r weithdrefn sydd i'w dilyn yn yr ymchwiliad.
(2) Nid yw paragraff (1)(a) yn allgáu materion eraill rhag cael eu hystyried, neu eu codi gan bersonau sy'n ymddangos yn yr ymchwiliad.
(3) Os yw person sy'n rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad wedi darparu datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth yn unol â chyfarwyddyd o dan reoliad 14(5), caiff yr arolygydd gyfarwyddo—
(a)bod y datganiad ysgrifenedig i'w drin fel tystiolaeth y person hwnnw, neu fel rhan o dystiolaeth y person hwnnw; a
(b)y caiff partïon eraill yn yr ymchwiliad groesholi'r person hwnnw ynglŷn â'r datganiad ysgrifenedig.
16.—(1) Os penodir arolygydd i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad, rhaid i'r arolygydd archwilio'r tir rhyddhau ac unrhyw dir cyfnewid cyn penderfynu'r cais neu baratoi adroddiad.
(2) Mewn unrhyw achos arall, cyn penderfynu cais, caiff yr awdurdod sy'n penderfynu—
(a)archwilio'r tir rhyddhau ac unrhyw dir cyfnewid; neu
(b)os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n penderfynu, penodi arolygydd i archwilio'r tir rhyddhau ac unrhyw dir cyfnewid ac i baratoi adroddiad.
(3) Cyn cynnal archwiliad safle o dan baragraff (1) neu (2), rhaid i'r arolygydd neu'r awdurdod sy'n penderfynu ofyn i'r ceisydd a yw'r ceisydd yn dymuno bod yn bresennol, neu gael ei gynrychioli.
(4) Os yw'r ceisydd yn datgan ei fod yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli, rhaid i'r arolygydd roi rhybudd rhesymol i'r ceisydd, o ddyddiad ac amser yr archwiliad, a rhoi cyfle i'r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, fod yn bresennol.
(5) Nid yw'n ofynnol bod arolygydd neu'r awdurdod sy'n penderfynu yn gohirio archwiliad os nad yw'r ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd yn bresennol ar yr adeg benodedig.
17.—(1) Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu wedi hysbysu'r ceisydd y cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad mewn perthynas â chais, caiff yr awdurdod, ar unrhyw adeg cyn bo'r gwrandawiad neu ymchwiliad wedi dod i ben, benderfynu—
(a)diddymu'r gwrandawiad neu ymchwiliad a phenderfynu'r cais drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; neu
(b)cynnal gwrandawiad yn hytrach nag ymchwiliad, neu i'r gwrthwyneb.
(2) Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu ymgynghori â'r ceisydd cyn penderfynu newid y weithdrefn ar gyfer penderfynu cais.
18.—(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ystyried—
(a)y cais a'r holl sylwadau a wnaed yn unol â rheoliad 10,
(b)y canfyddiadau o ganlyniad i archwiliad safle, os gwnaed archwiliad, ac
(c)os cynhaliwyd gwrandawiad neu ymchwiliad—
(i)y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwrandawiad neu ymchwiliad (os gwneir y penderfyniad gan yr arolygydd a glywodd y dystiolaeth honno), neu
(ii)adroddiad ac argymhelliad yr arolygydd (os na wneir y penderfyniad gan yr arolygydd),
rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu benderfynu pa un a ganiateir y cais ai peidio, a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw ac o'r rhesymau drosto.
(2) Os yw arolygydd wedi paratoi adroddiad yn dilyn gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle, rhaid anfon copi o'r adroddiad hwnnw gyda'r hysbysiad o'r penderfyniad a anfonir at y ceisydd.
(3) Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu yn caniatáu'r cais, rhaid i'r awdurdod hefyd—
(a)anfon ei orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir y tir rhyddhau a'r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid) ynddi; a
(b)anfon copi o'r gorchymyn hwnnw at y ceisydd.
19. Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu gyhoeddi ar wefan briodol—
(a)ei benderfyniad a'r rhesymau drosto; a
(b)os yw'n caniatáu'r cais, copi o'i orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006.