RHAN 2Gwneud a Phenderfynu Ceisiadau

Penderfynu cais18

1

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ystyried—

a

y cais a'r holl sylwadau a wnaed yn unol â rheoliad 10,

b

y canfyddiadau o ganlyniad i archwiliad safle, os gwnaed archwiliad, ac

c

os cynhaliwyd gwrandawiad neu ymchwiliad—

i

y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwrandawiad neu ymchwiliad (os gwneir y penderfyniad gan yr arolygydd a glywodd y dystiolaeth honno), neu

ii

adroddiad ac argymhelliad yr arolygydd (os na wneir y penderfyniad gan yr arolygydd),

rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu benderfynu pa un a ganiateir y cais ai peidio, a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw ac o'r rhesymau drosto.

2

Os yw arolygydd wedi paratoi adroddiad yn dilyn gwrandawiad, ymchwiliad neu archwiliad safle, rhaid anfon copi o'r adroddiad hwnnw gyda'r hysbysiad o'r penderfyniad a anfonir at y ceisydd.

3

Os yw'r awdurdod sy'n penderfynu yn caniatáu'r cais, rhaid i'r awdurdod hefyd—

a

anfon ei orchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006 at yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer yr ardal y lleolir y tir rhyddhau a'r tir cyfnewid (os oes tir cyfnewid) ynddi; a

b

anfon copi o'r gorchymyn hwnnw at y ceisydd.