RHAN 2Gwneud a Phenderfynu Ceisiadau
Rheoli cais6
1
Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael cais, rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu anfon at y ceisydd i gydnabod ei fod wedi ei gael, a rhaid i'r gydnabyddiaeth honno gynnwys —
a
y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r cais; a
b
cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost lle gellir anfon cyfathrebiadau ysgrifenedig ynglŷn â'r cais at yr awdurdod sy'n penderfynu.
2
Rhaid i'r awdurdod sy'n penderfynu, naill ai ar yr adeg y mae'n cael y cais neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y terfyn amser ar gyfer gwneud sylwadau o dan reoliad 10, benderfynu pa un a ymdrinnir â'r cais—
a
ar sail sylwadau ysgrifenedig,
b
mewn gwrandawiad, neu
c
mewn ymchwiliad cyhoeddus,
a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad hwnnw.
3
Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod sy'n penderfynu ac os penderfynant yr ymdrinnir â'r cais mewn gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus, rhaid iddynt benodi arolygydd i gynnal unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad ac i ddarparu adroddiad ac argymhelliad i Weinidogion Cymru.
4
Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu, naill ai wrth gydnabod y cais neu ar unrhyw adeg ddiweddarach, roi cyfarwyddyd i'r ceisydd i—
a
darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau a hepgorwyd o'r cais;
b
darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi penderfynu'r cais; neu
c
anfon hysbysiad o'r cais at bersonau a bennir yn y cyfarwyddyd, neu arddangos hysbysiad o'r cais mewn mannau a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ychwanegol at y gofynion yn rheoliad 7(1).
5
Caiff yr awdurdod sy'n penderfynu bennu terfyn amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn.