xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

4.—(1Hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas ag unrhyw ardal o Gymru—

(a)mae cyfeiriadau at dir wedi ei gofrestru'n dir comin neu'n faes y dref neu'n faes y pentref yn y canlynol—

(i)adrannau 16 ac 17 o Ddeddf 2006;

(ii)adrannau 38 a 44 o Ddeddf 2006; a

(iii)adran 29(2) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907(1),

mewn perthynas â'r ardal honno, i'w trin fel cyfeiriadau at dir sydd wedi ei gofrestru felly o dan Ddeddf 1965;

(b)mae cyfeiriadau yn adran 17 o Ddeddf 2006 at hawliau comin yn cael eu cofrestru'n rhai sy'n arferadwy dros dir o'r fath i'w trin, mewn perthynas â'r ardal honno, fel cyfeiriadau at hawliau comin sydd wedi eu cofrestru felly o dan Ddeddf 1965; a

(c)mae gorchymyn o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 sy'n ymwneud â thir yn yr ardal honno i'w drin fel gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cofrestru tiroedd Comin dynnu'r tir a ryddheir o gofrestr y tiroedd comin neu feysydd tref neu bentref a gedwir o dan Ddeddf 1965, ac (os yw'n gymwys) i gofrestru'r materion y cyfeirir atynt yn adran 17(2) o Ddeddf 2006 yn y gofrestr honno.

(2Er gwaethaf diddymu adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845(2), adran 4 o Ddeddf Cau Tir 1847(3) ac adrannau 4 a 5 o Ddeddf Cau Tir 1857(4), mae unrhyw gais am orchymyn cyfnewid o dan adran 147 o Ddeddf Cau Tir 1845 a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi parhau mewn grym.

(3Ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â chydsyniad a roddir o dan adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(5) cyn 1 Ebrill 2012.

(4Er gwaethaf diddymu adran 194 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925—

(a)mae unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012 i'w drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'r adran honno'n parhau mewn grym; a

(b)os rhoddir cydsyniad i gais o'r fath, ni fydd adran 38(1) o Ddeddf 2006 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithfeydd sy'n cael eu gwneud yn unol â'r cydsyniad hwnnw.

(5Ni fydd adran 23(2A) o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1971(6) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am gydsyniad o dan yr adran honno a wnaed cyn 1 Ebrill 2012.

(1)

1907 p.cxxxvi. Mae adran 29(2) wedi cael ei mewnosod gan adran 44(1) o Ddeddf 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi.

(2)

1845 p.118. Mae adran 147 wedi ei diddymu gan adrannau 48(1) a 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

(3)

1847 p.111. Mae adran 4 wedi ei diddymu gan adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

(4)

1857 p.31. Mae adrannau 4 a 5 wedi eu diddymu gan adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 3 o Atodlen 6 iddi.

(5)

1925 p.20. Mae adran 194 wedi ei diddymu gan adran 53 o Ddeddf 2006 a Rhan 2 o Atodlen 6 iddi.

(6)

1971 p.vi. Mae adran 23(2A) wedi ei mewnosod gan adran 44(1) o Ddeddf 2006 a pharagraff 4(3) o Atodlen 4 iddi.