Dadgofrestru y tir a ryddheir
3. Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru neu orchymyn dadgofrestru a chyfnewid, rhaid iddo ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir a ryddheir yn ei gofrestr o diroedd comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref, yn unol â Chofnod Safonol 11.