xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 792 (Cy.107)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2012

Gwnaed

10 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mawrth 2012

Yn dod i rym

30 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 198(8) a 333(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)ceisiadau a wneir ar 30 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny; a

(b)Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 9A mewnosoder—

Applications for consent under tree preservation order: Wales

9B.(1) Subject to the following provisions of this regulation, an application for consent to the cutting down, topping, lopping or uprooting of any tree in respect of which an order is for the time being in force must—

(a)be made in writing to the authority—

(i)on a form published by the Welsh Ministers for the purpose of proceedings under these Regulations; or

(ii)where the authority has consented to applications being made electronically, on a form published electronically by the Welsh Ministers and provided to the applicant using electronic communication for that purpose;

(b)include the particulars specified in the form;

(c)be accompanied, whether electronically or otherwise by—

(i)a plan which identifies the tree or trees to which the application relates;

(ii)such information as is necessary to specify the work for which consent is sought;

(iii)a statement of the applicant’s reasons for making the application; and

(iv)appropriate evidence describing any structural damage to property or in relation to tree health or safety, as applicable.

(2) Where an application is made using electronic communication, the applicant is taken to have agreed—

(a)to the use of such communication by the authority for the purposes of the application;

(b)that the applicant’s address for those purposes is the address incorporated into, or otherwise logically associated with, the application; and

(c)that deemed agreement under this paragraph will subsist until the applicant gives notice in writing—

(i)withdrawing any address notified to the authority for that purpose; or

(ii)revoking that deemed agreement,

and such withdrawal or revocation will be final and must take effect on the date specified by the applicant in the notice being not less than seven days after the date on which the notice is given..

(3In the Schedule (form of tree preservation order)—

(a)omit article 6 (applications for consent under the order); and

(b)in article 9(4)(b) for the words “statement of reasons” to “such statement” substitute “application and the documents and particulars accompanying it”.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”) yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer ffurf gorchmynion cadw coed ac ar gyfer ceisiadau am gydsyniad i wneud gwaith ar goed sy'n ddarostyngedig i orchymyn.

Mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 9B newydd yn Rheoliadau 1999 i wneud darpariaeth ar gyfer ffurf a chynnwys ceisiadau am gydsyniad ar gyfer gweithio ar goed yng Nghymru. Mae diwygiadau canlyniadol yn cael eu gwneud i'r Atodlen i Reoliadau 1999 gan reoliad 2(3).

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan: Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar-lein yn www.cymru.gov.uk.

(1)

1990 p.8. Mewnosodwyd adran 198(8) gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 42(3). Diwygiwyd adran 333(1) gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 78 ac Atodlen 10, paragraff 32(12).

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan yr adrannau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1999/1892, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.