12.—(1) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol y gwneir cais iddo am ganiatâd cynllunio roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.
(2) Yn achos cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad—
(a)sy'n gais AEA a gyflwynir ynghyd â datganiad amgylcheddol;
(b)nad yw'n cydweddu â darpariaethau'r cynllun datblygu sydd mewn grym yn yr ardal lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais; neu
(c)a fyddai'n effeithio ar hawl tramwy y mae Rhan 3 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (hawliau tramwy cyhoeddus)(1) yn gymwys iddi,
rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais yn y modd a bennir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i gais sy'n dod o fewn paragraff (2) (“cais paragraff (2)”) drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; a
(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.
(4) Yn achos cais am ganiatâd cynllunio nad yw'n gais paragraff (2), os yw'r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad mawr, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)(i)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu
(ii)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol; a
(b)drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae'r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.
(5) Mewn achos nad yw paragraff (2) na pharagraff (4) yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais drwy roi hysbysiad gofynnol—
(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai nag 21 diwrnod; neu
(b)drwy gyflwyno'r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.
(6) Os caiff hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu'i ddifwyno cyn bo'r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) neu (5)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd bai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac i'w ailosod pe bai angen.
(7) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at y diben o roi cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol ar y wefan—
(a)cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;
(b)disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig;
(c)erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid gwneud unrhyw sylwadau, sef dyddiad na chaiff fod yn gynharach na diwrnod olaf y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cyhoeddir yr wybodaeth;
(ch)ymhle a pha bryd y ceir archwilio'r cais; a
(d)sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â'r cais.
(8) Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi methu â bodloni gofynion yr erthygl hon mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ar yr adeg yr atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(2) neu y gwneir unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(3), bydd yr erthygl hon yn parhau'n gymwys fel pe na bai'r cyfryw atgyfeiriad neu apêl i Weinidogion Cymru wedi ei wneud.
(9) Os yw paragraff (8) yn gymwys, pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni gofynion yr erthygl hon, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny.
(10) Yn yr erthygl hon—
ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a bennir yn Atodlen 3 neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran effaith; ac
ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”) yw unrhyw berchennog neu feddiannydd unrhyw dir cyffiniol i'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(11) Mae paragraffau (1) i (6) yn gymwys i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(4) fel pe bai'r cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 12 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
1981 p.69; gweler adran 66. Ceir diwygiadau i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.
Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.
Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.