xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
14.—(1) Cyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd, ym marn awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn categori a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir mewn perthynas â'r categori hwnnw, oni bai—
(a)mai'r awdurdod cynllunio lleol yw'r awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly; neu
(b)bod yr awdurdod, corff neu berson a grybwyllir felly wedi rhoi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol nad yw'n dymuno iddo ymgynghori ag ef[F1, neu
(c)mae erthygl 15ZA yn gymwys].
(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(b) yn gymwys os yw'r datblygiad, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn dod o fewn paragraff [F2(rh)] o'r Tabl yn Atodlen 4.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i awdurdod cynllunio lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff a enwir yn y cyfarwyddiadau, mewn unrhyw achos neu ddosbarth o achosion a bennir yn y cyfarwyddiadau.
(4) Os yw'n ofynnol gan neu, o dan, yr erthygl hon bod awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori ag unrhyw berson neu gorff (“yr ymgynghorai”) cyn rhoi caniatâd cynllunio—
(a)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, os nad yw'r ceisydd wedi cyflwyno copi o gais am ganiatâd cynllunio i'r ymgynghorai, roi hysbysiad o'r cais i'r ymgynghorai; a
(b)rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais tan [F321 diwrnod] o leiaf ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) neu, os yw'n gynharach, [F321 diwrnod] ar ôl dyddiad cyflwyno copi o'r cais i'r ymgynghorai gan y ceisydd.
(5) Wrth benderfynu'r cais, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan ymgynghorai.
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 14(1)(c) ac gair wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 10(3) (ynghyd ag ergl. 15(3))
F2Gair yn ergl. 14(2) wedi ei amnewid (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 5(1)
F3Geiriau yn ergl. 14(4)(b) wedi eu hamnewid (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 6 (ynghyd ag ergl. 12)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 14 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)