RHAN 3Ymgynghori

Sylwadau gan gynghorau cymuned cyn penderfynu ceisiadau

16.—(1Pan roddir gwybodaeth ynglŷn â chais i gyngor cymuned yn unol â pharagraff 2(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1990 (dosbarthiad swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol: Cymru)(1), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, roi gwybod i'r awdurdod cynllunio lleol sy'n penderfynu'r cais a yw'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau ynghylch y modd y dylid penderfynu'r cais ai peidio, a rhaid iddo gyflwyno unrhyw sylwadau i'r awdurdod hwnnw o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl i'r cyngor cymuned gael ei hysbysu ynglŷn â'r cais.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais, y mae'n ofynnol rhoi gwybodaeth amdano i gymuned—

(a)cyn bo'r cyngor cymuned yn rhoi gwybod iddo nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw sylwadau;

(b)cyn bo sylwadau wedi eu gwneud gan y cyngor hwnnw; neu

(c)cyn bo'r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi dod i ben,

pa un bynnag o'r rhain sy'n digwydd gyntaf; ac wrth benderfynu'r cais, rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law gan gyngor y gymuned.

(3Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol hysbysu'r cyngor cymuned ynghylch telerau'r penderfyniad ar unrhyw gais o'r fath, neu, os atgyfeirir y cais at Weinidogion Cymru, rhaid iddo hysbysu'r cyngor cymuned o'r dyddiad y'i hatgyfeiriwyd felly, a phan ddônt i law, telerau penderfyniad Gweinidogion Cymru.

(1)

1990 p.8. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).