Hysbysu ynghylch ceisiadau mwynauLL+C
17.—(1) Pan fo hysbysiad wedi ei roi at ddibenion yr erthygl hon i awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â thir sydd o fewn ei ardal, ac os pennwyd yn yr hysbysiad—
(a)gan yr Awdurdod Glo, bod y tir yn cynnwys glo;
(b)gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, bod y tir yn cynnwys nwy neu olew; neu
(c)gan Gomisiynwyr Ystad y Goron, bod y tir yn cynnwys arian neu aur,
rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu unrhyw gais am ganiatâd cynllunio i ennill a gweithio unrhyw fwyn ar y tir hwnnw, heb yn gyntaf hysbysu'r corff neu'r person a roddodd yr hysbysiad, bod cais wedi ei wneud.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “glo” (“coal”) yw glo ac eithrio—
(a)glo a enillwyd neu a weithiwyd yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir yn unig at y diben o chwilio am lo; neu
(b)glo y mae'n ofynnol ei gloddio neu ei gludo ymaith yng nghwrs gweithrediadau a ymgymerir at ddibenion nad ydynt yn cynnwys caffael glo neu unrhyw gynnyrch glo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 17 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)