RHAN 4Penderfynu
Cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau22.
(1)
F1(1A)
Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.
(2)
Y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw—
(a)
y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod cynllunio lleol;
F2(aa)
mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—
(i)
4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu
(ii)
12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef
pa un bynnag yw’r diweddaraf;
(b)
ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod; neu
(c)
os yw unrhyw ffi sy'n ofynnol mewn perthynas â chais wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, y cyfnod priodol fel a bennir yn is-baragraff F3(a), (aa) neu (b). uchod, a gyfrifir gan ddiystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi derbyn swm llawn y ffi.
(3)
Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais sy'n cynnwys—
F4(a)
cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;
(b)
pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;
F5(ba)
mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;
(c)
mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F6...;
(ch)
mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;
(d)
y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;
(dd)
(e)
unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais, ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,
a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo'r cais a'r cyfryw ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu'u cyflwyno ynghyd â'r cais, ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.
F7(3A)
Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.
(4)
Nid yw paragraff (3)(dd) yn gymwys ac eithrio—
(a)
pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr;
(b)
yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais wedi ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion paragraff(3); ac
(c)
y manylion neu'r dystiolaeth y mae'n ofynnol gan yr awdurdod eu cynnwys, neu ei chynnwys, yn y cais, yn dod o fewn y rhestr honno.
(5)
Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ddarparu pa bynnag wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed o dan erthygl 4 neu erthygl 5 (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd yr ymdriniwyd ag unrhyw gais o'r fath) a wneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd. Caiff unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gynnwys darpariaeth ynglŷn â pha bersonau sydd i'w hysbysu a'r modd y darperir yr wybodaeth.
(6)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu cais am ganiatâd cynllunio, pan fo unrhyw hysbysiad o'r cais, neu wybodaeth yn ei gylch—
(a)
wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;
F8(b)
wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—
(i)
i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu
(ii)
i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,
cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw; neu
(c)
wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,
(7)
Os oes mwy nag un o'r cyfnodau rhagnodedig o dan baragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais cyn diwedd y diweddaraf neu'r diweddarach o'r cyfnodau hynny.