RHAN 4LL+CPenderfynu

Cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadauLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo cais dilys wedi dod i law awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(1) roi i'r ceisydd hysbysiad o'i benderfyniad neu'i ddyfarniad neu roi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru.

[F1(1A) Mae cyfeiriadau ym mharagraff (1) at gais dilys yn cynnwys cyfeiriadau at y cais hwnnw fel y’i diwygiwyd cyn i’r awdurdod cynllunio lleol benderfynu’r cais.]

(2Y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw—

(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y daeth y cais i law'r awdurdod cynllunio lleol;

[F2(aa)mewn achos y mae paragraff (1A) yn gymwys iddo, y cyfnod o—

(i)4 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y diwygiad i’r cais; neu

(ii)12 wythnos sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais y mae’r diwygiad yn ymwneud ag ef

pa un bynnag yw’r diweddaraf;]

(b)ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod; neu

(c)os yw unrhyw ffi sy'n ofynnol mewn perthynas â chais wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, y cyfnod priodol fel a bennir yn is-baragraff [F3(a), (aa) neu (b).] uchod, a gyfrifir gan ddiystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi derbyn swm llawn y ffi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais sy'n cynnwys—

[F4(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;]

(b)pan wneir cais mewn perthynas â thir y Goron, y dogfennau sy'n ofynnol gan erthygl 6;

[F5(ba)mewn achos y mae erthygl 2F yn gymwys iddo, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan yr erthygl honno;]

(c)mewn achos y mae erthygl 7 yn gymwys iddo, y datganiad dylunio a mynediad F6...;

(ch)mewn achos y mae erthygl 9 yn gymwys iddo, y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol gan yr erthygl honno;

(d)y dystysgrif sy'n ofynnol gan erthygl 11;

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y manylion y gofynnir am eu cynnwys, neu'r dystiolaeth y gofynnir am ei chynnwys, gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)(2); ac

(e)unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais, ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,

a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo'r cais a'r cyfryw ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu'u cyflwyno ynghyd â'r cais, ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.

[F7(3A) Rhaid cymryd bod diwygiad i gais dilys wedi ei gael pan fo’r diwygiad a’r cyfryw ddogfennau a gynhwysir yn y cais neu sy’n dod gyda’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.]

(4Nid yw paragraff (3)(dd) yn gymwys ac eithrio—

(a)pan fo'r cais ar gyfer datblygiad mawr;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol, cyn bo'r cais wedi ei wneud, yn cyhoeddi rhestr o ofynion ar ei wefan at ddibenion paragraff(3); ac

(c)y manylion neu'r dystiolaeth y mae'n ofynnol gan yr awdurdod eu cynnwys, neu ei chynnwys, yn y cais, yn dod o fewn y rhestr honno.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio lleol ddarparu pa bynnag wybodaeth ynghylch ceisiadau a wnaed o dan erthygl 4 neu erthygl 5 (gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd yr ymdriniwyd ag unrhyw gais o'r fath) a wneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd. Caiff unrhyw gyfarwyddyd o'r fath gynnwys darpariaeth ynglŷn â pha bersonau sydd i'w hysbysu a'r modd y darperir yr wybodaeth.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu cais am ganiatâd cynllunio, pan fo unrhyw hysbysiad o'r cais, neu wybodaeth yn ei gylch—

(a)wedi ei roi neu'i rhoi drwy arddangos ar y safle o dan erthygl 10 neu 12, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr arddangoswyd yr hysbysiad am y tro cyntaf drwy arddangos ar y safle;

[F8(b)wedi ei gyflwyno neu’i chyflwyno neu wedi ei roi neu’i rhoi—

(i)i berchennog y tir neu i denant o dan erthygl 10, neu

(ii)i berchennog neu feddiannydd cyffiniol o dan erthygl 12,

cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cyflwynwyd neu y rhoddwyd yr hysbysiad i’r person hwnnw; neu]

(c)wedi ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi mewn papur newydd o dan erthygl 10 neu 12 neu ar wefan o dan erthygl 12, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad neu'r wybodaeth,

a'r cyfnodau yn y paragraff hwn yw'r cyfnodau a ragnodir at ddibenion adran 71(1) o Ddeddf 1990 (ymgyngoriadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 70)(3).

(7Os oes mwy nag un o'r cyfnodau rhagnodedig o dan baragraff (6) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol beidio â phenderfynu'r cais cyn diwedd y diweddaraf neu'r diweddarach o'r cyfnodau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 22 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

(1)

Mae O.S. 1999/293 yn estyn y cyfnod amser ar gyfer dyfarnu ceisiadau am ddatblygiad AEA.

(2)

Amnewidiwyd adran 62 gan adran 42(1) o Ddeddf 2004.

(3)

Amnewidiwyd adran 71(1) gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).