RHAN 5Apelau
Hysbysiad o apêl25.
Mae erthyglau 10 ac 11 yn gymwys i unrhyw apêl a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) fel y maent yn gymwys i geisiadau am ganiatâd cynllunio.