xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26.—(1) Rhaid i geisydd sy'n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—
(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â'r cyfryw rai o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) sy'n berthnasol i'r apêl; a
(b)cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o'r ffurflen a grybwyllir ym mharagraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym [F2mharagraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(v)] .
(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1) yw F3...—
[F4(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach, deuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl;
(b)yn achos unrhyw apêl arall o dan adran 78(1), chwe mis ar ôl—
(i)dyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl; neu
(ii)mewn achos pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i’r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw’r ceisydd wedi darparu’r wybodaeth, dyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwnnw;
neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(3) [F5Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach—
(i)copi o’r cais a anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill yn ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod cynllunio lleol, ac eithrio unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau yn ymwneud â diwygiadau i’r cais arfaethedig ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol wneud eu penderfyniad; ac
(iii)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad;
(b)yn achos unrhyw apêl arall a wnaed o dan adran 78—
(i)y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii)yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;
(iii)yr holl ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais;
(iv)unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i’r awdurdod o dan erthygl 11;
(v)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill sy’n ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod;
(vi)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un;
(vii)os yw’r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â’r cais hwnnw a’r caniatâd cynllunio a roddwyd.]
[F6(c)pan fo’r paragraff hwn yn pennu’r caniatâd cynllunio a roddwyd, a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio wedi ei dyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid ei ddarllen fel pe bai’n pennu’r fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.]
(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl oddi wrth geisydd os na chyflwynir i Weinidogion Cymru y dogfennau sy'n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i'w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—
(a)sy'n ymwneud ag apelau o dan adran 78 o Ddeddf 1990 a'r erthygl hon, a
(b)y gellir eu cyflawni yn electronig.
(6) Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.]
[F7(7) Yn yr erthygl hon—
ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais deiliad tŷ ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais masnachol bach ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 26 pennawd wedi eu mewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 13(6)
F2Geiriau yn ergl. 26(1)(b) wedi eu hamnewid (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 8(1) (ynghyd ag ergl. 12)
F3Geiriau yn ergl. 26(2) wedi eu hepgor (22.6.2015) yn rhinwedd Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 8(2)(a) (ynghyd ag ergl. 12)
F4Ergl. 26(2)(a)(b) wedi ei amnewid ar gyfer (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 8(2)(b) (ynghyd ag ergl. 12)
F5Ergl. 26(3) wedi ei amnewid (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 8(3) (ynghyd ag ergl. 12)
F6Ergl. 26(3)(c) wedi ei fewnosod (16.3.2016) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59), erglau. 1(2), 12(2)
F7Ergl. 26(7) wedi ei fewnosod (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 8(4) (ynghyd ag ergl. 12)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 26 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)