Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/09/2015.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
28.—(1) Rhaid i gais am dystysgrif o dan adran 191(1) neu 192(1) o Ddeddf 1990 (tystysgrifau cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig)(1) gael ei wneud ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith), ac yn ychwanegol at bennu'r tir a disgrifio'r defnydd, gweithrediadau neu fater arall dan sylw yn unol â'r adrannau hynny, rhaid cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen.
(2) Rhaid i gais y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd ag—
(a)plan sy'n galluogi adnabod y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei luniadu wrth raddfa ddynodedig ac sy'n dangos cyfeiriad y gogledd;
(b)pa bynnag dystiolaeth y gall y ceisydd ei darparu ar gyfer gwirio'r wybodaeth a gynhwysir yn y cais; ac
(c)datganiad sy'n nodi buddiant y ceisydd yn y tir, enw a chyfeiriad unrhyw berson arall y gŵyr y ceisydd fod ganddo fuddiant yn y tir, a pha un a hysbyswyd y person hwnnw o'r cais ai peidio.
(3) Pan wneir cais am dystysgrif o dan adran 192(1) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â thir y Goron, rhaid ei gyflwyno ynghyd â'r canlynol, yn ogystal â'r dogfennau sy'n ofynnol gan baragraff (2)—
(a)datganiad y gwneir y cais mewn perthynas â thir y Goron; a
(b)os gwneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.
(4) Pan fo cais o'r fath yn pennu dau neu ragor o fathau o ddefnydd, gweithrediadau neu faterion eraill, rhaid i'r plan a gyflwynir ynghyd â'r cais ddynodi â pha ran o'r tir y mae pob math o ddefnydd, gweithrediad neu fater arall yn ymwneud.
(5) Pan wneir cais gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.
(6) Mae erthyglau 8(1) a 22(5) yn gymwys i gais am dystysgrif y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio.
(7) Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol wedi cael cais sy'n cydymffurfio â gofynion paragraffau (1) i (4) ac unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais wedi ei chyflwyno, rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon at y ceisydd i gydnabod y cais yn y termau a bennir yn Atodlen 1 (neu dermau o'r un sylwedd).
(8) Os yw'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl anfon cydnabyddiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (7), o'r farn bod y cais yn annilys, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod y cais yn annilys.
(9) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod y ceisydd yn darparu pa bynnag wybodaeth bellach a bennir gan yr awdurdod i'w alluogi i ymdrin â'r cais.
(10) Pan fo cais dilys wedi dod i law, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i'r ceisydd o fewn—
(a)y cyfnod o wyth wythnos sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y daeth y cais i law'r awdurdod; neu
(b)oni fydd y ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, o fewn pa bynnag gyfnod estynedig a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a'r awdurdod.
(11) At y diben o gyfrifo'r cyfnod priodol a bennir ym mharagraff (10), pan fo unrhyw ffi sy'n ofynnol wedi ei thalu â siec, a'r siec honno wedi ei dychwelyd wedyn heb ei thalu, rhaid diystyru'r cyfnod rhwng y dyddiad y mae'r awdurdod cynllunio lleol yn anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a'r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(12) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais—
(a)sy'n cydymffurfio â gofynion paragraffau (1) i (4); a
(b)a gyflwynir ynghyd â'r ffi y mae'n ofynnol ei thalu mewn perthynas â'r cais ac at y diben hwn rhaid ystyried bod cyflwyno siec am swm y ffi yn gyfystyr â thalu,
a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael os yw'r cais a'r holl ddogfennau, manylion neu dystiolaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4), ac unrhyw ffi sy'n ofynnol, wedi eu cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol.
(13) Os gwrthodir cais, yn gyfan gwbl neu'n rhannol (gan gynnwys achos pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn addasu'r disgrifiad o'r math o ddefnydd, y gweithrediadau neu fater arall yn y cais, neu'n rhoi disgrifiad amgen yn lle'r disgrifiad hwnnw), rhaid i'r hysbysiad o benderfyniad ddatgan yn eglur a manwl y rhesymau llawn dros benderfyniad yr awdurdod a rhaid iddo gynnwys datganiad i'r perwyl y caiff y ceisydd, os tramgwyddir ef gan y penderfyniad, apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthodiad neu fethiant i roi penderfyniad ar gais)(2).
(14) Rhaid i dystysgrif o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 fod yn y ffurf a bennir yn Atodlen 7, neu ffurf sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith.
(15) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu dirymu tystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 yn unol ag adran 193(7) o Ddeddf 1990 (tystysgrifau o dan adrannau 191 a 192: darpariaethau atodol)(3), rhaid iddo, cyn dirymu'r dystysgrif, roi hysbysiad o'r bwriad hwnnw i—
(a)perchennog y tir yr effeithir arno;
(b)meddiannydd y tir yr effeithir arno;
(c)unrhyw berson arall yr effeithir arno gan y dirymiad, ym marn yr awdurdod; ac
(ch)yn achos tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990, Gweinidogion Cymru.
(16) Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (15) wahodd y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo i wneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â'r bwriad, o fewn 14 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, a rhaid i'r awdurdod beidio â dirymu'r dystysgrif cyn bod pob cyfnod o'r fath a ganiateir ar gyfer gwneud sylwadau wedi dod i ben.
(17) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw ddirymiad o dan adran 193(7) o Ddeddf 1990 i bob person y cyflwynwyd hysbysiad o'r bwriad i ddirymu iddo o dan baragraff (15).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 28 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)
Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34), adran 10(1).
Diwygiwyd adran 195 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 32 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Amnewidiwyd adran 193 gan adran 10(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: