- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
28A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gais a wneir o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio).
(2) Rhaid i gais y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo gael ei wneud i’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caniateir rhoi cyhoeddusrwydd i gais am newidiadau amherthnasol i ganiatâd cynllunio, gan yr awdurdod cynllunio lleol, drwy roi hysbysiad—
(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 14 diwrnod; neu
(b)drwy gyflwyno’r hysbysiad i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.
(4) Os caiff yr hysbysiad ei dynnu ymaith, ei guddio neu’i ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 14 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a) wedi dod i ben, a hynny pan nad oedd unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol na bwriad ganddo i wneud hynny, rhaid trin yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn y paragraff hwnnw, os cymerodd gamau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac i’w ailosod pe bai angen.
(5) Cyn penderfynu cais, caiff awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag unrhyw awdurdod, corff neu berson yr ymgynghorwyd ag ef yn unol ag erthygl 14 cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3) neu os yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi ymgynghori yn unol â pharagraff (5), rhaid i’r awdurdod, wrth benderfynu cais, gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(7) Rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y cais i’r ceisydd o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod.]
Diwygiadau Testunol
F1Ergl. 28A wedi ei fewnosod (1.9.2014) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1772), erglau. 1(1), 2(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: