- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
29.—(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofrestr, mewn tair Rhan, o bob cais am ganiatâd cynllunio a phob gorchymyn datblygu lleol (os oes un) sy'n ymwneud â'i ardal.
(2) Rhaid i'r rhan gyntaf o'r gofrestr (“Rhan 1”) gynnwys, mewn perthynas â phob cais am ganiatâd cynllunio, ac unrhyw gais a wnaed am gymeradwyaeth i faterion a gadwyd yn ôl mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd ynglŷn â chais o'r fath, a wnaed i'r awdurdod cynllunio lleol neu a anfonwyd ato ac nas penderfynwyd yn derfynol—
(a)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o'r cais ynghyd ag unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd gydag ef;
(b)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, arfaethedig neu'r ymunwyd ynddi neu ynddo eisoes, mewn cysylltiad â'r cais;
(c)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall, yr ymunwyd ynddi neu ynddo eisoes, mewn perthynas â'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ac a ystyrir yn berthnasol gan y ceisydd; ac
(ch)manylion o unrhyw addasiad i unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 a gynhwyswyd yn Rhan 1 yn unol ag is-baragraffau (b) ac (c) uchod.
(3) Rhaid i'r ail ran o'r gofrestr (“Rhan 2”) gynnwys, mewn perthynas â phob cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ardal yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o'r cais ac o'r planiau a'r lluniadau a gyflwynwyd mewn perthynas ag ef ac o unrhyw ddatganiad dylunio a mynediad a ddarparwyd ynghyd ag ef yn unol ag erthygl 7;
(b)manylion o unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan Ddeddf 1990 neu'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r cais;
(c)penderfyniad yr awdurdod, os gwnaed un, mewn perthynas â'r cais, gan gynnwys manylion o unrhyw amodau y rhoddwyd caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, dyddiad y cyfryw benderfyniad ac enw'r awdurdod;
(ch)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r cais, pa un ai ar apêl, ar gais o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(1) neu ar atgyfeiriad o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(2);
(d)dyddiad unrhyw gymeradwyaeth ddilynol (pa un ai cymeradwyaeth i faterion a gadwyd yn ôl neu unrhyw gymeradwyaeth ofynnol arall) a roddwyd mewn perthynas â'r cais;
(dd)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 yr ymunwyd ynddi neu ynddo mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r cais;
(e)copi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru wrth wneud y penderfyniad; ac
(f)manylion o unrhyw addasiad i unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, neu unrhyw ryddhad o rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278, a gynhwyswyd yn Rhan 2 yn unol ag is-baragraffau (dd) neu (e) neu baragraff (4).
(4) Yn dilyn unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(3), os ystyrir bod yr apelydd wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio a Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd cynllunio, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl cael hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru, gofnodi yn Rhan 2 fanylion o'r datblygiad dan sylw, y tir y cyflawnwyd y datblygiad arno, a dyddiad ac effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghyd â chopi (a gaiff fod mewn ffurf ffotograffig neu electronig) o—
(a)unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 yr ymunwyd ynddi neu ynddo mewn cysylltiad â'r penderfyniad; a
(b)unrhyw rwymedigaeth gynllunio neu gytundeb adran 278 arall a gymerwyd i ystyriaeth neu gan Weinidogion Cymru wrth wneud y penderfyniad.
(5) Rhaid i drydedd rhan y gofrestr gynnwys dwy adran—
(a)rhaid i'r adran gyntaf gynnwys copïau o orchmynion datblygu lleol drafft sydd wedi eu paratoi ond heb eu mabwysiadu gan yr awdurdod cynllunio lleol; a
(b)rhaid i'r ail adran gynnwys—
(i)copïau o orchmynion datblygu lleol sydd wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod;
(ii)manylion am ddirymu unrhyw orchymyn datblygu lleol a wnaed gan yr awdurdod, gan gynnwys y dyddiad y daeth y dirymiad i rym; a
(iii)manylion am ddiwygio unrhyw orchymyn datblygu lleol, gan gynnwys y dyddiad y daeth y diwygiad i rym.
(6) Rhaid gosod copi o bob gorchymyn datblygu lleol drafft ar y gofrestr pan anfonir y drafft ar gyfer ymgynghori yn unol ag erthygl 27.
(7) Rhaid gosod copi o bob gorchymyn datblygu lleol ar y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad ei fabwysiadu.
(8) Mae gofyniad i osod copi o orchymyn datblygu lleol drafft neu orchymyn datblygu lleol a fabwysiadwyd ar y gofrestr yn cynnwys gofyniad i osod ar y gofrestr y datganiad o resymau dros wneud y gorchymyn hwnnw.
(9) Rhaid i'r gofrestr gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob cais am dystysgrif o dan adran 191 neu 192 o Ddeddf 1990 (tystysgrifau o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig) sy'n ymwneud ag ardal yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b)dyddiad y cais;
(c)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
(ch)disgrifiad o'r defnydd, gweithrediadau neu fater arall a gynhwysir yn y cais;
(d)penderfyniad, os gwnaed un, yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'r cais, a dyddiad y cyfryw benderfyniad; ac
(dd)rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ar apêl mewn perthynas â'r cais.
(10) Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol ynghylch cynlluniau parth cynllunio syml yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol—
(a)manylion cryno am unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1990 neu Atodlen 7 i'r Ddeddf honno (gwneud cynlluniau parthau cynllunio syml etc)(4) i sefydlu neu gymeradwyo unrhyw gynllun parth cynllunio syml, gan gynnwys dyddiad y mabwysiadu neu'r cymeradwyo, y dyddiad y daeth y cynllun neu'r newid yn weithredol, a'r dyddiad y mae'n peidio â bod yn weithredol;
(b)copi o unrhyw gynllun parth cynllunio syml, neu unrhyw newid mewn cynllun presennol, gan gynnwys unrhyw ddiagramau, lluniau, deunydd disgrifiadol neu unrhyw ddeunydd arall a ragnodir sydd wedi ei roi ar gael i'w archwilio o dan Atodlen 7 i Ddeddf 1990; ac
(c)map mynegeiol sy'n dangos ffin unrhyw gynlluniau parth cynllunio syml gweithredol neu arfaethedig, gan gynnwys addasiadau i gynlluniau presennol pan fo'n briodol, ynghyd â chyfeiriad at y cofnodion yn y gofrestr o dan is-baragraffau (a) a (b).
(11) Er mwyn galluogi unrhyw berson i olrhain unrhyw gofnod yn y gofrestr, rhaid i bob cofrestr gynnwys mynegai, ynghyd â mynegai ar wahân o geisiadau am ddatblygiad sy'n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu greu dyddodion o weithfeydd mwynau.
(12) Yn ddarostyngedig i baragraff (13), rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais, neu ar ôl rhoi neu wneud y cyfarwyddyd perthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r gymeradwyaeth berthnasol, yn ôl fel y digwydd.
(13) Rhaid gosod copi o unrhyw gais a wneir o dan adran 293A(2) o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais), ac o unrhyw blaniau a lluniadau a gyflwynwyd mewn perthynas â'r cais, ar y gofrestr o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ymgynghorir â'r awdurdod cynllunio lleol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r cais.
(14) Rhaid cadw'r cyfan o'r gofrestr ym mhrif swyddfa'r awdurdod cynllunio lleol, neu rhaid cadw'r rhan honno o'r gofrestr sy'n ymwneud â thir mewn rhan o ardal yr awdurdod hwnnw, mewn man sydd o fewn y rhan honno o'r ardal, neu sy'n gyfleus ar gyfer y rhan honno o'r ardal.
(15) At ddibenion paragraff (2), rhaid peidio â thrin cais fel pe bai wedi ei benderfynu yn derfynol oni fydd—
(a)yr awdurdod cynllunio lleol wedi penderfynu (neu'r cyfnod priodol a ganiateir o dan erthygl 22 wedi dod i ben heb iddo roi penderfyniad) a'r cyfnod o chwe mis a bennir yn erthygl 26(2) wedi dod i ben heb i unrhyw apêl gael ei gwneud i Weinidogion Cymru;
(b)y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol) neu apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath)(5), Gweinidogion Cymru wedi dyroddi penderfyniad a'r cyfnod o chwe wythnos a bennir yn adran 288 o Ddeddf 1990 (achosion i herio dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddiadau eraill)(6) wedi dod i ben heb i unrhyw gais gael ei wneud i'r Uchel Lys o dan yr adran honno;
(c)cais wedi ei wneud i'r Uchel Lys o dan adran 288 o Ddeddf 1990 a'r mater wedi ei benderfynu yn derfynol, naill ai drwy wrthod y cais yn derfynol gan lys, neu drwy ddiddymu penderfyniad Gweinidogion Cymru a dyroddi penderfyniad newydd (heb unrhyw gais pellach o dan yr adran 288 honno); neu
(ch)y cais wedi ei dynnu'n ôl cyn ei benderfynu gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru, yn ôl fel y digwydd, neu apêl wedi ei thynnu'n ôl cyn bo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi eu penderfyniad.
(16) Pan fo'r gofrestr a gedwir gan awdurdod cynllunio lleol o dan yr erthygl hon yn cael ei chadw drwy ddefnyddio storio electronig, caiff yr awdurdod roi'r gofrestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben hwnnw.
(17) Yn yr erthygl hon—
(a)ystyr “rhwymedigaeth gynllunio” (“planning obligation”) yw rhwymedigaeth yr ymunir ynddi drwy gytundeb neu fel arall gan unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir yn unol ag adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)(7); a
(b)ystyr “cytundeb adran 278” (“section 278 agreement”) yw cytundeb yr ymunir ynddo yn unol ag adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cytundebau ynglŷn â chyflawni gwaith)(8).
Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.
Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 18 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno, ac adran 40(2)(d) o Ddeddf 2004.
Diwygiwyd adran 174 gan adran 6 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac O.S. 2004/3156 (Cy.273).
Gwnaed diwygiadau i adran 83 ac Atodlen 7 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) ac adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004.
Diwygiwyd 288 gan adran 18 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53), a pharagraff 25 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno.
Diwygiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) ac adran 174 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29). Ni fwriedir ar hyn o bryd ddwyn i rym y diddymiad o adran 106 gan adran 120 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno.
Amnewidiwyd adran 278 gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: