xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Pan wneir cais i'r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio amlinellol, caiff yr awdurdod roi caniatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n pennu materion a gedwir yn ôl, ar gyfer eu cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr awdurdod.
(2) Os yw awdurdod cynllunio lleol sydd i benderfynu cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, o'r farn, yn amgylchiadau'r achos, na ddylid ystyried y cais ar wahân i'r cyfan neu unrhyw rai o'r materion a gedwir yn ôl, rhaid iddo, o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau pan geir y cais, hysbysu'r ceisydd na all yr awdurdod benderfynu'r cais oni chyflwynir manylion pellach, gan nodi'r manylion pellach sy'n ofynnol ganddo.
(3) Pan fo'r llunwedd yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan yn fras leoliad yr adeiladau, y llwybrau a'r mannau agored a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.
(4) Pan fo graddfa yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan y terfynau uchaf ac isaf o ran uchder, lled a hyd pob adeilad a gynhwysir yn y datblygid arfaethedig.
(5) Pan fo mynediad yn fater a gedwir yn ôl, rhaid i'r cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ddatgan ym mha fan neu fannau y lleolir y pwyntiau mynediad i'r datblygiad arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)