Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Adran 30

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/11/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Cofrestr o hysbysiadau gorfodi ac atalLL+C

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r gofrestr o dan adran 188 o Ddeddf 1990 (cofrestr o hysbysiadau gorfodi ac atal)(1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob hysbysiad gorfodi a ddyroddir mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol sy'n cynnal y gofrestr—

(a)cyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu blan y gellir cyfeirio ato i ganfod lleoliad y tir;

(b)enw'r awdurdod dyroddi;

(c)dyddiad dyroddi'r hysbysiad;

(ch)dyddiad cyflwyno copïau o'r hysbysiad;

(d)datganiad neu grynodeb o'r toriad o reolaeth gynllunio a honnir, ac o ofynion yr hysbysiad, gan gynnwys y cyfnod a ganiateir ar gyfer cymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol;

(dd)y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yr hysbysiad yn cael effaith;

(e)gwybodaeth am unrhyw ohiriad o'r dyddiad a bennir fel y dyddiad y bydd yr hysbysiad yn cael effaith oherwydd adran 175(4) o Ddeddf 1990 (apelau: darpariaethau atodol)(2) a'r dyddiad y penderfynwyd unrhyw apêl yn derfynol neu'r dyddiad y'i tynnwyd yn ôl;

(f)dyddiad cyflwyno ac, os yw'n gymwys, dyddiad tynnu'n ôl, unrhyw hysbysiad atal gyda chyfeiriad at yr hysbysiad gorfodi, ynghyd â datganiad neu grynodeb o'r gweithgarwch a waherddir gan unrhyw hysbysiad atal o'r fath; ac

(ff)y dyddiad, os oes un, y bodlonir yr awdurdod fod y camau sy'n ofynnol gan yr hysbysiad at ddiben a grybwyllir yn adran 173(4)(b) o Ddeddf 1990 (cynnwys ac effaith yr hysbysiad: unioni unrhyw niwed i amwynder)(3) wedi eu cymryd.

(2Rhaid i'r gofrestr honno gynnwys hefyd yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob hysbysiad torri amodau a gyflwynwyd mewn perthynas â thir yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol sy'n cynnal y gofrestr—

(a)cyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu blan y gellir cyfeirio ato i ganfod lleoliad y tir;

(b)enw'r awdurdod cyflwyno;

(c)dyddiad cyflwyno'r hysbysiad;

(ch)manylion o'r caniatâd cynllunio perthnasol sy'n ddigonol i alluogi ei adnabod; a

(d)datganiad neu grynodeb o'r amod y methwyd â chydymffurfio ag ef ac o ofynion yr hysbysiad, gan gynnwys y cyfnod a ganiateir ar gyfer cydymffurfio.

(3Rhaid dileu o'r gofrestr bob cofnod mewn perthynas â hysbysiad gorfodi, hysbysiad atal neu hysbysiad torri amodau—

(a)yn achos hysbysiad gorfodi neu hysbysiad atal, os diddymir yr hysbysiad gorfodi perthnasol gan Weinidogion Cymru;

(b)yn achos hysbysiad torri amodau, os diddymir yr hysbysiad gan lys;

(c)mewn unrhyw achos, os tynnir yr hysbysiad perthnasol yn ôl.

(4Rhaid i bob cofrestr gynnwys mynegai sy'n galluogi person i olrhain unrhyw gofnod yn y gofrestr drwy gyfeirio at gyfeiriad y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(5Rhaid cofnodi'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (1) a (2) yn y gofrestr cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn 14 diwrnod ar ôl y digwyddiad y mae'n ymwneud ag ef.

(6Rhaid cadw'r cyfan o'r gofrestr ym mhrif swyddfa'r awdurdod cynllunio lleol, neu rhaid cadw'r rhan honno o'r gofrestr sy'n ymwneud â thir mewn rhan o ardal yr awdurdod hwnnw mewn man sydd o fewn y rhan honno o'r ardal, neu sy'n gyfleus ar gyfer y rhan honno o'r ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 30 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

(1)

Diwygiwyd adran 188 gan adran 84(6) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 a pharagraff 30 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 i'r Ddeddf honno. Ceir diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

Ceir diwygiad i adran 175(4) nad yw'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(3)

Amnewidiwyd adran 173 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources