RHAN 8LL+CCyffredinol

Dirymiadau, darpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C

33.—(1Dirymir yr offerynnau statudol a bennir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 8 i'r graddau a bennir yn y rhes gyfatebol yn nhrydedd golofn y Tabl.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wnaed cyn 1 Tachwedd 2011—

(a)nid yw erthyglau 26 (apelau) a 29 (cofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol) ac Atodlen 5 (hysbysu pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) yn gymwys; a

(b)mae erthyglau 23 (apelau) a 25 (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 a Rhan 2 o Atodlen 1 (hysbysiad sydd i'w anfon i'r ceisydd os gwrthodir caniatâd cynllunio neu os rhoddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau) i'r Gorchymyn hwnnw(1) yn gymwys fel yr oedd y darpariaethau hynny'n gymwys yn union cyn 1 Tachwedd 2011.

(3Mewn perthynas ag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 30 Ebrill 2012—

(a)nid yw erthygl 12 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) yn gymwys; a

(b)mae erthygl 8 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio)(2) yn gymwys fel yr oedd y ddarpariaeth honno'n gymwys yn union cyn 30 Ebrill 2012.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 33 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

(1)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1996/525, 2004/1434, 2004/3156, 2006/1386, 2006/3390 a 2009/1024.

(2)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/293 a 2006/1386.