- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, rhaid i gais am ganiatâd cynllunio—
(a)cael ei wneud i'r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sylweddol gyffelyb o ran ei heffaith);
(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;
(c)ac eithrio pan wneir y cais yn unol ag adran 73 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a atodwyd yn gynharach), neu adran 73A(2)(c) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes), o Ddeddf 1990(1), cael ei gyflwyno, naill ai'n electronig neu fel arall, ynghyd â'r canlynol—
(i)plan sy'n diffinio'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
(ii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy'n angenrheidiol er mwyn disgrifio'r datblygiad sy'n destun y cais;
(iii)ac eithrio pan wneir y cais drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o'r ffurflen; a
(iv)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiadau electronig neu pan fo'r awdurdod cynllunio lleol yn dynodi mai nifer llai sy'n ofynnol, 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth a gyflwynir gyda'r cais.
(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae'n ofynnol eu darparu o dan baragraff (1)(c)(i) neu (ii) fod wedi eu lluniadu wrth raddfa ddynodedig, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5) o erthygl 3, yn achos cais am ganiatâd cynllunio amlinellol, nid oes raid rhoi manylion ynghylch unrhyw faterion a gedwir yn ôl.
(4) Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion o weithfeydd mwynau—
(a)cael ei wneud ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio lleol;
(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; ac
(c)cydymffurfio â gofynion paragraff (1)(c).
(5) Pan wneir cais drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.
Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004, ac Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 73A gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34) a pharagraff 16 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: